Seiclo i'r Steddfod dros gymunedau Cymraeg

robin-a-kali.jpgFe fydd dau ymgyrchydd iaith yn seiclo dros 70 milltir i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam i dynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.Aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, fydd yn seiclo o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod lle trafodir tynged y Gymraeg fel iaith gymunedol ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod. Ar eu siwrnai o gyffiniau Caernarfon draw i faes y brifwyl, fe fyddan nhw'n ymweld â nifer o gymunedau gan gynnwys y Parc, Gwynedd, ac yn cario'r siarter "Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy" a lansir yn y cyfarfod.Yn annerch y cyfarfod ar y dydd Mawrth, fydd nifer o gynrychiolwyr cymunedol, gan gynnwys Nia Lloyd o ymgyrch Deffro'r Ddraig, Wrecsam a Gwenno Puw o ymgyrch Ysgol y Parc, ger y Bala, yn ogystal â'r Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Llyr Huws Griffiths.Yn siarad cyn y daith, fe ddywedodd Robin Crag:"Mae dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol o dan fygythiad mawr, ac mae angen tynnu mwy o sylw at y potensial i warchod a chreu cymunedau Cymraeg Cynaladwy. Mae nifer o ffactorau yn milwrio yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau. Mae bygythiadau i ysgolion cymunedol, ac mae ideoleg y Llywodraeth San Steffan yn annog i bobl ifanc symud i ffwrdd o'u cymunedau i chwilio am waith yn cyfrannu at yr her. Dwi'n beicio i'r Eisteddfod trwy nifer o gymunedau gwahanol, am fy mod i'n credu y gall bob cymuned yng Nghymru fod yn un gynaladwy yn amgylcheddol ac yn ieithyddol." Fe fydd y ddau seiclwr hefyd yn mynd draw at gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gyflwyno'r siarter i Bryn Fôn a'r Band Al Lewis a Daniel Lloyd a fydd yn perfformio yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yng nghanol dref Wrecsam ar y noson honno. Ychwanegodd Robin Crag:"Rydyn ni'n falch o gael cefnogaeth yr artistiaid i'r siarter. Gobeithio y bydd nifer o bobl yn dod i gefnogi'r ymgyrch dros ein cymunedau yn ogystal â mwynhau unig gig Bryn a'i fand llawn yn ystod yr Eisteddfod."Fe ddywedodd Hywel Griffiths, llefarydd Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn gynharach eleni cyhoeddwyd darlith 'Tynged yr Iaith 2 sydd yn amlinellu'r her newydd i'r Gymraeg yn y degawdau i ddod. Bron i hanner canrif yn ôl ysbrydolodd darlith Tynged yr Iaith weithredu chwyldroadol sydd wedi sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg. Er hynny, mae'n debyg y bydd canlyniadau'r cyfrifiad eleni yn dangos dirywiad mawr yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau. Byddwn yn lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy a gobeithiwn yn gosod sylfaen ar gyfer mynd i'r afael a'r broblem hon."Mae'r siarter yn pwysleisio fod gan bob cymuned yng Nghymru'r botensial i fod yn gymuned Gymraeg. Mae gyda ni, yn y Gymdeithas, weledigaeth dros gymunedau cynaliadwy ym mhob ystyr y gair yn economaidd, amgylcheddol ac yn ieithyddol."Mae dal rhai tocynnau ar ol i'r gig am 8pm nos Fawrth - ar werth am £9 yr un ar-lein o cymdeithas.org/steddfod ac yn bersonol o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meirion Y Bala, Elfair Rhuthun, ac o swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.