Bydd yr ymchwiliad i Gynllun Datblygu Ceredigion yn cychwyn y dydd Iau hwn (Hydref 7fed) am 10 o’r gloch ym Mhencadlys Cyngor Ceredigion, ym Mhenmorfa, Aberaeron.
Bydd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gynrychiolwyr yn y cyfarfod a nifer o brotestwyr ar y tu allan yn mynegi eu gwrthwynebiad i’r Cynllun Datblygu Unedol.Dywedodd Huw Lewis Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Mae’n bwysig fod yr ymchwiliad hwn yn rhywbeth llawer mwy nac ymarferiad biwrocratadidd ac yn cymryd i ystyriaeth bryderon pobl Ceredigion ynglyn a’r Cynllun Datblygu Unedol. Os ydy cymunedau Cymraeg Ceredigion i oroesi yna mae’n rhaid i’rymchwiliad hwn gymryd ei waith o ddifri.”Darllenwch mwy ar wefan BBC Cymru'r BydDarllenwch mwy ar wefan y Daily Post