Ymgyrchwyr Powys: "hen bryd i ni gael addysg Gymraeg i bawb"

Mae angen brys am addysg Gymraeg ar drigolion sir Powys, dyna oedd neges ymgyrchwyr iaith wrth y cyngor sir mewn protest ar faes yr Eisteddfod heddiw.  

Mae cangen leol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sir Drefaldwyn, sydd wedi trefnu'r gwrthdystiad, wedi llwyddo sicrhau bod cynghorwyr wedi sefydlu gweithgor er mwyn ystyried sefyllfa'r Gymraeg yn y sir. Un o brif alwadau'r mudiad yn lleol yw sicrhau rhagor o addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Nid oes yr un ysgol uwchradd benodedig Gymraeg ym Mhowys gyda nifer o blant yn gorfod teithio allan o'r sir. Mae bygythiadau i'r ddarpariaeth Gymraeg yn ysgol uwchradd Aberhonddu yn ogystal.  

Ymysg y siaradwyr yn y brotest oedd y cerddor a chyn-gadeirydd y Gymdeithas Dafydd Iwan ynghyd â'r bardd ac ymgyrchydd lleol Arwyn Groe. 

Yn siarad ar ôl y brotest, dywedodd Elwyn Vaughan ar ran Cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae gwir angen arweiniad gan y Cyngor ar addysg. Yn y bôn, dyw'r system addysg ddim yn cynhyrchu digon o siaradwyr Cymraeg i sicrhau twf yr iaith yn yr ardal. Mae hynny wrth wraidd problemau'r iaith yn yr ardal a does dim gweithredu brys ar y mater. Mae angen ysgolion Cymraeg yn yr ardal, ac fel mae gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Gymdeithas yn datgan mae sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb yn allweddol. Yr hyn sydd angen yw un continwwm statudol mae pob ysgol, gynradd ac uwchradd, yn mynd i fyny, sy'n golygu bod holl ddisgyblion y sir yn derbyn canran cynyddol o'u haddysg drwy'r Gymraeg."

Mae aelodau lleol Cymdeithas yr Iaith hefyd yn pwyso am newidiadau i gynllun datblygu lleol y sir megis: dosbarthiad datblygiadau tai i adlewyrchu anghenion lleol, lleihau'r cyfanswm o 6,071 o dai, comisiynu ymchwil annibynnol i effaith datblygiadau diweddar yng nghadarnleoedd y Gymraeg yn y sir, ac asesiadau iaith ar ddatblygiadau newydd 

Wrth sôn am faterion cynllunio, ychwanegodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy y mudiad, sy'n byw ym Machynlleth: "Mae profiad Powys yn debyg i nifer o ardaloedd - dyw'r cynlluniau ddim  yn adlewyrchu anghenion lleol. Mae'r ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod yn broblem ledled Cymru. Mae'n dda bod y sir yn cydnabod maint y bygythiad i gymunedau Cymraeg, ond, mae angen i gynllun datblygu'r cyngor sir adlewyrchu'r angen lleol, a bod yn arf i atgyfnerthu'r Gymraeg yn hytrach na'i thanseilio. Dyna pam ei fod yn bwysig bod pobl yn gyrru neges glir i'r Cyngor bod rhaid cryfhau'r ffordd mae'n ystyried y Gymraeg." 

Y stori yn y wasg -

Gorymdaith i'herio' Cyngor Powys ar addysg - Golwg360 04/08/15