Dyma fanylion ymgyrchoedd diweddaraf rhanbarth Caerfyrddin-Penfro.
Cysyllta gyda ni am ragor o wybodaeth.
Galwad Sir Gâr
Sir Gâr welodd y cwymp mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2021. Roedd yr un peth yn wir ddeng mlynedd yn ôl felly mae Cyngor Sir Gâr wedi dechrau mynd ati i geisio adfer y Gymraeg yn y sir.
Mae rhai pethau tu hwnt i allu cynghorau sir felly mae angen i'r Llywodraeth weithredu nawr i sicrhau:
- Addysg Gymraeg i Bawb
- Deddf Eiddo Gyflawn
- Cynllunio Gwaith i Gynnal yr Iaith
- Cynnal Cymunedau Gwledig a Bywoliaeth mewn Amaeth
- Menter Ddigidol Gymraeg
- Y Gymraeg yn Iaith Gwasanaethau Cyhoeddus
- Bod y Gymraeg yn Iaith Gwaith
Byddwn ni'n casglu enwau i gefnogi'r galwad hyd at Eisteddfod yr Urdd ddiwedd Mai.
Pwyswch yma i gefnogi'r galwad a lawrlwythwch daflen er mwyn casglu enwau eraill yn y sir sy'n cefnogi a'u danfon i'r brif swyddfa erbyn Mai 22 neu ddod â nhw i'n stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd.
Moderneiddio Addysg Sir Gâr – Ymarferiad gwag neu gychwyn newydd?
Cyn yr etholiad lleol yng ngwanwyn 2022, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin beidio mynd ymlaen gyda chynllun i gau ysgolion Mynydd-y-garreg a Blaenau, ond yn hytrach i gyfarwyddo swyddogion i baratoi adolygiad llawn o Gynllun Moderneiddio Addysg y sir.
Credodd nifer mai ymdrech i osgoi problem etholiadol oedd hwn, ond croesawodd Cymdeithas yr Iaith y bwriad i adolygu Cynllun dadleuol iawn oedd mewn lle ers 2005.
Ym mis Hydref 2022 dywedodd Arweinydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Darren Price fod adolygiad i'r Cynllun Moderneiddio Addysg newydd ddechrau ac y byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan aelodau etholedig, sydd â meddwl agored, ac anogodd bawb i gyflwyno eu barn a’u tystiolaeth.
Rydyn ni nawr yn wynebu dewis go iawn. Gall "moderneiddio" addysg barhau i fod yn ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cau cymaint o ysgolion bach â phosibl, nawr bod etholiad wedi digwydd. Ar y llaw arall, gallai hwn fod yn adolygiad gwirioneddol ddychmygus o sut y gallai moderneiddio gryfhau ac ailfywiogi cymunedau yn hytrach na’u tanseilio.
Ai mater o fynd drwy’r cynigion biwrocrataidd yn unig fydd yr adolygiad i foderneiddio addysg yn sir Gaerfyrddin, neu a fydd yn gyfle i ailfeddwl sut i ddatblygu ein cymunedau gwledig Cymraeg mewn ffordd radical?
Cynllun Datblygu Lleol
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau'r gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Diwygiedig ar gyfer y cyfnod 2018-2033. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, pan gaiff ei fabwysiadu, yn disodli'r Cynllun presennol ac yn sail ar gyfer penderfyniadau cynllunio defnydd tir.
Yn Ionawr 2020 cyhoeddodd y Cyngor y CDLl Adneuo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ond ers ei gyhoeddi maw sawl peth wedi golygu bod angen i'r cyngor ei ddiwygio.
Mae ymgynghoriad newydd ar y CDLl diwygiedig ar agor nes Ebrill 14.
Ni fydd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â'r Cynllun Adneuo gwreiddiol yn cael eu hystyried na'u cyflwyno fel rhan o'r ymgynghoriad hwn felly mae'n bwysig ail-gyflwyno sylwadau.
Mae gwybodaeth lawn ar wefan y cyngor.
Strategaeth Hybu'r Gymraeg yn Sir Gâr
Mae disgwyl i bob cyngor sir baratoi Strategaeth Hybu'r Gymraeg bob pum mlynedd.
Mae gwybodaeth bellach am Strategaeth Hybu 2016-21 Sir Gaerfyrddin ar wefan y cyngor.
Mae'r cyngor yn paratoi strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf gyda chymorth nifer o fudiadau'r sir. Mae sylwadau Cymdeithas yr iaith i'r drafft strategaeth i'w gweld yma.
Pentre Awel
Mae prosiect iechyd a llesiant ar waith yn Llanelli, a gwybodaeth ar wefan y Cyngor Sir.
Mae Cynllun Iaith ac Asesiad Effaith Iaith gan y cynllun.
Dyma ymateb Cymdeithas yr Iaith i'w cynllun iaith.
Dyfodol Digidol i Sir Gâr
Ym Medi 2021 fe wnaeth y rhanbarth gynnal cyfarfod agored i drafod cyfraniad y cyfryngau digidol i frwydr y Gymraeg fel iaith gymunedol.
Gallwch chi wylio'r cyfarfod yma.