Sir Gaerfyrddin
Si ar y Stryd
Rydyn ni'n cyhoeddi newyddlen bob hyn a hyn gyda gwybdoaeth am beth allwch chi wneud a beth sydd 'mlaen yn yr ardal. Bydd aelodau yn cael copi yny post.
Pwyswch yma i weld Si ar y Stryd Rhagfyr 2016
Bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod newid Ysgol Llangennech i fod yn Ysgol Gymraeg ar y 18fed o Ionawr eleni. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu gyda'r holl gynghorwyr cyn y bleidlais er mwyn eu hannog i fynd ymlaen â'u bwriad i newid categori iaith yr ysgol.
Mae'n llythyr i'w weld yma a rhestr o gynghorwyr yma, gall unrhyw un gysylltu gyda chynghorwyr.
Yma yn Sir Gâr rydym yn byw yng nghysgod bwgan mawr sy'n bygwth dyfodol ein cymunedau Cymraeg a'n ffordd o fyw - ein Cyngor Sir. Yn groes i strategaeth honedig y Cyngor o "gynnal a hyrwyddo cymunedau Cymraeg", maent wrthi'n systematig yn lladd cymunedau Cymraeg y Sir.
- Maent wedi cau nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y Sir yn ystod y blynyddoedd ddiwethaf ac mae mwy ar y ffordd. Yn eu cyhoeddiad "Cynllun Trefniadaeth Ysgolion" maent yn bygwth ysgolion cynradd gyda llai na 90 o blant, sef bron pob ysgol gynradd Gymraeg yn y sir, gan ddweud mai ystyriaethau ariannol sydd bwysicaf. Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith ein gwrth-bolisi sef dogfen Llwyddiant Ysgolion Pentref (PDF).
- Mae Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor yn rhoi caniatad cynllunio i dros 15,000 o dai yn y Sir, fydd yn hwyluso mewnlifiad enfawr i'r Sir. Dyw'r ffigurau yma ddim wedi'u seilio ar unrhyw ymchwil i'r angen lleol am dai.
- Er mwyn rhoi cyfle i’r Gymraeg fyw, argymhellwn y pecyn canlynol o gamau. Gyda'i gilydd dyma Siarter Sir Gâr (PDF).
Mae gennym griwiau o bobl yn gweithio yn y meysydd uchod - ond mae mawr angen cymorth. Os alli di helpu trwy ffonio, llythyru, gosod posteri, gweithredu yna cysyllta, neu os wyt ti jyst moyn gwybod mwy.... cysyllta!
Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg 2017-2022
Fe wnaeth y Cyngor Sir ymgynghori ar ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ym mis Rhagfyr. Bu raid gwenud diwygiadau iddo felly mae ymgynghoriad ar y newidiadau hynny nes dydd Llun y 18fed o Fedi.
Gall unrhyw un gyflwyno sylwadau. Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i'w weld yma a chroeso mawr i unrhyw un ei ddefnyddio i lunio ymateb. Gallwch ymateb drwy e-bostio WESP@sirgar.gov.uk
Mae'n hymateb i'r CSGA llawn yma.
Cyfarfodydd rhanbarth Caerfyrddin
Mae'r rhanbarth yn cwrdd yn rheoliadd - cysyllta am ragor o wybdoaeth.
Cofnodion cyfarfod blynyddol y rhanbarth - Medi 2015
Cyfarfod Tynged yr Iaith yn Sir Gâr
Yng nghyafarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr: Gwaith i Gynnal yr Iaith cyflwynwyd papur trafod sydd i'w weld yma
Bydd cyfarfod nesaf 'Tynged yr Iaith yn Sir Gâr' ar yr 28ain o Ionawr yn neuadd llyfrgell Caerfyrddin a byddwn ni'n trafod effaith cynllunio a'r farchnad dai ar gymunedau. Mwy yma
Yn dilyn parti ar faes yr Eisteddfod yn Llanelli yn 2014 ein blaenoriaeth ni yw cadw llygad ar Gyngor Sir Caerfyrddin i wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu argymhellion Gweithgor y Gymraeg - ac yn adeiladu arnyn nhw.
Rydyn ni wedi sefydlu pwyllgor o farcutiaid i wneud y gwaith hyn, pwyswch yma am ragor o wybdoaeth am farcutiaid Sir Gâr.
Cronfa Safiad Sir Gâr
Ydych chi'n fodlon cefnogi gwaith Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd nesaf? Yn wyneb argyfwng yr iaith a'r cymunedau Cymraeg yn Sir Gâr a amlygwyd yn ffigyrau'r Cyfrifiad (2011), fe benderfynon ni sefydlu "Cronfa Safiad Sir Gâr". Caiff pob ceiniog ei wario ar ymgyrchoedd i ddwyn pwysau ar y Cyngor a'r Llywodraeth i greu amodau i sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg. Ffurflen Cronfa Safiad Sir Gâr (PDF)
Ymgynghoriad i Gyllideb Cyngor Sir Caeryrddin -
Wrth i'r cyngor sir ymgynhori ar ei gyllideb, gyda'r bwriad o dorri £10,000 ar wariant ar y Gymraeg, a thorri gwasanaethau fydd yn ei gwneud yn anoddach i bobl aros yn lleol dyma ymateb Cymdeithas yr Iaith. Mae croeso i ti ddefnyddio'r ymateb fel sail i dy ymateb di.
Mae Ymateb Cymdeithas yr Iaith i'w weld yma
Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu'n derfynol ar Gynllun Datblygu Lleol y Sir. Gan nad yw'r Cynllun ar sail angen lleol rydyn ni'n gwrthwynebu adeiladu dros 15,000 o dai, a bod adeiladu niferoedd mawr o dai yn mewn 'canolfanau gwasanaeth' yn hytrach an ble ame eu hangen.
Ymgyrch i Gymreigio Busnesau Sir Gaerfyrddin
M&S - Ers iddyn nhw dynnu arwyddion Cymraeg i lawr a rhoi rhai uniaith Saesneg yn eu lle rydyn ni wedi bod yn galw ar Marks and Spencer am wasanaeth Cymraeg. Mwy yma
Aldi a Lidl - Mae mwy a mwy o bobl yn siopa yn Aldi a Lidl ond does dim Cymraeg yn eu siopau o gwbl - a braidd dim staff gyda nhw sydd yn siarad Cymraeg. Danfon neges atyn nhw i ddweud fod angen iddyn nhw wneud: Ffurflen ebostio Aldi a Ffurflen Ebostio Lidl
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Penfro wedi bod yn ymgynghori'n ddiweddar ar eu cyllideb.Mae'n hymateb ni yma
Sir Benfro
Addysg
Ymgynghoriad Cyngor Sir Benfro i addysg yn y Sir
Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad diweddaraf yma
Roedd ymgynghoriad cychwynnol yn Rhagfyr 2014, ble roedd ystyried addysg yn gyffredinol ar draws Gogledd Orllewin Sir Benfro, mae ymateb llawn Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad i'w weld yma
Cyngor Sir Benfro:
Rydyn ni'n galw ar y Cyngor i ddangos arweiniad o ran y Gymraeg drwy ddatgan mai Cymraeg yw iaith y Cyngor Sir a symud i weithio drwy'r Gymraeg.
Dangosodd y Cyngor Sir eu hagwedd tuag at y Gymraeg, gyda hysbyseb am swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn cynnwys manylion sarhaus am y Gymraeg yn y sir yn 2014. Dyma'r stori: http://cymdeithas.org/newyddion/beirniadu-hysbyseb-swydd-cyngor-sir-benfro
Beth yw dy brofiad di wrth gysylltu gydfa'r Cyngor Sir? Rydyn ni wedi derbyn nifer o sylwadau gan bobl sydd wedi cael trafferth cael gwasanaeth Cymraeg. Rhanna dy brofiad fan hyn
Byddwn ni'n tynnu sylw'r Cyngor Sir at sylwadau, ond yn eich annog o gysylltu gyda'r Cyngor Sir yn bersonol i godi unrhyw fater. Dyma fnaylion cysylltu y swyddogion perthnasol:
- Cyngh Huw George, aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg - cllr.huw.george@pembrokeshire.gov.uk
-
Ian Westley, Prif Weithredwr - chief.executive@pembrokeshire.gov.uk
-
Rachel Powell, Swyddog Diogelu Data a Chwynion - rachel.powell@pembrokeshire.gov.uk
- Neu i ddanfon ar bapur, anfonwch at sylw'r uchod i Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Rydyn ni wrthi yn llunio cyfres o alwadau penodol - rhai gall y cyngor ddechrau gweithredu arnyn nhw yn syth a rhai iddyn nhw weithio arnyn nhw dros amser. Mae'r rhestr o alwadau yn Siarter Penfro