Mae Cymdeithas yr Iaith wedi honni fod rhieni ysgolion pentrefol dan fygythiad yn cael eu trin fel darnau bach mewn gêm wleidyddol gan y pleidiau.
Heddiw, wrth adnewyddu'r caniatâd i Awdurdodau Lleol gynnal ymgynghoriadau yn ystod pandemig tra bo'r ysgolion ar gau, mae'r Gweinidog Addysg wedi ychwanegu'r nodyn canlynol, nad oedd yn y canllawiau gwreiddiol a gyhoeddwyd ar y 7ed Ionawr:
"Arfer da wrth gynnal ymgynghoriadau - Lle’n bosibl, dylai cynigwyr ystyried a ddylid gohirio ymgynghoriadau ar hyn o bryd neu ymestyn cyfnodau ymgynghori er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl ystyried y cynnig a dweud eu dweud. Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i gasglu adborth o safon ac yn sicrhau bod pob parti'n teimlo ei fod yn cael ei gynnwys a bod eu barn yn cael ei werthfawrogi. Mae hefyd yn caniatáu mwy o amser i gymunedau ddod at ei gilydd, efallai ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol, i drafod y cynnig cyn ymateb."
Wrth ymateb, dywedodd Bethan Williams ar ran Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro o Gymdeithas yr Iaith "Mae'r Gweinidog Addysg dros fis yn hwyr yn awgrymu nawr y gall Awdurdodau Lleol ystyried gohirio'r ymgynghoriadau y gwnaeth hi eu caniatáu trwy ruthro i newid y rheolau ar y 7ed o Ionawr. Ers 5 wythnos mae rhieni a llywodraethwyr mewn cymunedau fel Mynydd y Garreg a Blaenau yn Sir Gâr wedi gorfod ceisio amddiffyn eu hysgolion rhag cynigion i'w cau tra bod yr ysgolion eu hunain ar gau, a rhieni ddim yn cael cyfarfod â'i gilydd. Bu'n straen mawr ar ben pryderon am iechyd, am fywoliaeth ac am addysgu plant adre. Dim ond nawr, yn ystod wythnos olaf yr ymgynghoriadau, y mae'r Gweinidog Addysg yn awgrymu efallai nad yw'n syniad da wedi'r cyfan. Mae fel petai'r pleidiau i gyd yn defnyddio'r rhieni fel rhyw ddarnau bach mewn gêm fawr. Mae'n bryd rhoi sicrwydd i'r cymunedau dewr hyn am ddyfodol eu hysgolion."