Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth Gynghorwyr Sir Gâr fod swyddogion i'w gweld yn anwybyddu cyfarwyddyd i ddefnyddio'r 4 mis nesaf i drafod gyda chymunedau lleol ddyfodol eu hysgolion lleol. Penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ar Fawrth 1af i estyn cyfnod ymgynghoriad ar gynigion i gau Ysgolion Mynydd-y-Garreg a Blaenau tan ddiwedd tymor yr haf mewn ymateb i ganllawiau diwygiedig y Gweinidog Addysg am gynnal ymgynghoriadau mewn pandemig. Wrth wneud hyn, dywedodd y Cyng Glynog Davies (deilydd y portffolio addysg) y byddai hyn yn rhoi digon o amser ar gyfer trafod cynlluniau amgen am ddyfodol yr ysgolion, ac nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud. Ategwyd hyn yn gyhoeddus gan gynghorwyr eraill a oedd yn bresennol.
Ond mae Cymdeithas yr iaith yn deall fod Swyddogion Addysg wedi gwrthod yn syth Gynllun Busnes manwl a gyflwynwyd iddynt gan Lywodraethwyr Ysgol Mynydd-y-Garreg a olygai fod yr ysgol yn cydweithio mewn ffederasiwn gydag Ysgol Gwenllian, Cydweli, gyda buddsoddiad yn y ddau safle.
Ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith, esboniodd Ffred Ffransis "Gwyddom fod llywodraethwyr Ysgol Mynydd-y-Garreg wedi ymateb yn adeiladol trwy roi cynigion manwl a olygent fod cyfleusterau trefol Cydweli a champws gwledig Mynydd-y-Garreg yn gweithio'n dda gyda'i gilydd. Buasai uwchraddio adeilad Mynydd-y-Garreg ond yn costio 5% o'r holl fuddsoddiad yn yr ardal, bydd 66% o hynny yn dod o gyllid llywodraeth ganolog. Buasai'r cynlluniau hyn hefyd yn darparu dewis a digonedd o leoedd addysg Gymraeg ar gyfer yr ardal gyfan."
Ychwanegodd Mr Ffransis: "Deallwn fod y swyddogion wedi gwrthod hyn oll yn syth mewn un cyfarfod a mynnu glynu at eu cynllun gwreiddiol i gau'r ysgol. Os felly, gwastraff amser fydd y pedwar mis nesaf - i rieni pryderus Mynydd-y-Garreg ac hefyd i Ysgol Gwenllian a fydd yn gorfod aros mwy o amser eto am ei hadeilad newydd a fyddai wedi bod yn cael ei adeiladu nawr oni bai am yr ymgais styfnig i'w glymu ag argymhelliad i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg. Deallwn mai teimlad y cynghorwyr yw na allant drafod y mater yn gyhoeddus mewn cyfnod cyn-etholiadol, ond rydyn ni wedi galw arnynt i gyfarwyddo eu swyddogion i ddychwelyd at drafod y cynlluniau o ddifri gyda'r llywodraethwyr.
"Agwedd bryderus arall yw mai lleiafrif yn unig o lefydd ysgol yn yr ardal fyddent mewn addysg Gymraeg. Mae'n debyg fod swyddogion yn ceisio cyfiawnhau hyn trwy ddweud y bydd y cwricwlwm newydd yn golygu y bydd yr ysgol leol Saesneg ei chyfrwng yn dechrau, mewn amser, defnyddio peth Gymraeg fel cyfrwng addysg. Dyna ddadl beryglus y gellid ei defnyddio trwy'r sir a thrwy Gymru i atal datblygiad addysg Gymraeg. Bwriad y datblygiad hwn yn y cwricwlwm yw ceisio sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu'n gyfan gwbl o'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg, ond ni fwriadwyd hyn fel dull o danseilio addysg Gymraeg ei chyfrwng sy'n cynhyrchu disgyblion sy'n rhugl yn y ddwy iaith".
Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgolion Mynydd-y-Garreg a Chydweli i'w weld yma.