Dewch lawr i gyfarfod Cell Penarth yn y Windsor Arms am 8yh ar nos Iau y 12fed o Chwefror. Byddwn yn trafod addysg Gymraeg, darpariaeth Cymraeg yn maes iechyd meddwl, y cyngor a llawer mwy. Dewch a'ch syniadau! Croeso i bawb.
Bydd ein cyfarfod Rhanbarth ar ddydd Llun y 23fed o Chwefror yn Ty Tawe, Abertawe am 7:00 yh.
Edrychwn ymlaen i weld gwynebau newydd yno! Croeso i bawb ddod gyda eu syniadau a i wybod mwy am yr hyn y mae Cymdeithas yr Iaith yn ei wneud yn Ranbarthol a Genedlaethol ar hyn o bryd. Oes rhywbeth hoffech ymgyrchu drosto yn leol o ran y Gymraeg yn Abertawe? Dewch i'r cyfarfod i'w drafod!
Bydd y cyfarfod yng nghwmni Aled Davies, Cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Canolfan De Orllewin Cymru.
Bydd cyfarfod Cell Caerdydd nesaf ar y 7fed o Ionawr 2015 am 6YH yn Y Mochyn Du. Cysylltwch gyda Heledd ar 02920 486469 a cadwch olwg ar y cyfrif Trydar @cellcaerdydd
Dewch i gyfarfod Cell Dwyrain Gwent yn Uplands Ffarm, Sebastopool,Pontypwl, Torfaen, NP4 5DQ am 6:30 yh ar nos fercher y 26ed o Dachwedd. Am ragor o wybodaeth rho alwad i Heledd ar 02920 486469.
Bydd stondin "Addysg Gymraeg i Bawb" gan Cymdeithas yr Iaith yng nghynhadledd blynyddol Rhieni dros Addysg Gymraeg yn ysgol Treganna, Caerdydd ar y 22fed o Dachwedd. Dewch draw i'r stondin am sgwrs gyda ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith am yr hyn yr ydym ni yn ei alw amdano ym maes addysg yng Nghymru.
"Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg yn sgil addysgiadol hanfodol na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl ohono."