Morgannwg Gwent

Cyfarfod Cell Penarth

15/10/2014 - 19:00

Bydd Cell Penarth yn cwrdd ar y 15fed o Hydref am 7yh yn y Windsor Arms, Heol Windsor, Penarth CF64 1JJ

 

Cyfarfod blynyddol Rhanbarth Morgannwg-Gwent

06/10/2014 ()

Yn anffodus bu rhaid gohirio cyfarfod blynyddol Rhanbarth Morgannwg-Gwent ac felly bydd y cyfarfod nawr yn digwydd ar nos Lun y 6ed o Hydref am 7yh yn nhafarn y Diwc of Clarence! https://goo.gl/maps/7n8b6 Dewch draw i drafod blaenoriaethau'r rhanbarth am y flwyddyn nesaf ac i ethol swyddogion newydd y rhanbarth. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 02920 486469 neu ebostiwch de@cymdeithas.org.

Cyfarfod flynyddol Rhanbarth Morgannwg-Gwent

23/09/2014 - 19:00
WEDI GOHIRIO Bydd cyfarfod flynyddol rhanbarth Morgannwg-Gwent yn cael ei gynnal ar nos Fawrth y 23ain am 7yh yn nhafarn y Diwc of Clarence (CF5 1HJ). Dyma yw cyfarfod pwysicaf y flwyddyn i'r rhanbarth, lle byddwn yn ethol swyddogion newydd y rhanbarth, byddwn yn llunio cynigion ar gyfer cyfarfod flynyddol y Gymdeithas yn genedlaethol, byddwn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf, ac yn penderfynu beth fydd y rhanbarth yn ei wneud flwyddyn nesaf.

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith i siarad mewn digwyddiad yn cefnogi pleidlais IE

Bydd Robin Crag Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn un o'r siaradwyr yn y digwyddiad "Cymru'n Cefnogi IE" am 2pm tu allan i'r Senedd ym mae Caerdydd dydd Sadwrn (Medi 13eg).

Dywedodd Robin:

Cyfarfod Cell Caerffili a Blaenau Gwent

09/09/2014 - 19:00

Bydd cell Caerffili a Blaenau Gwent yn cwrdd ar y 9fed o Fedi am 7yh yn Wetherspoons y Coed Duon. Dewch i drafod sut i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn yr ardal a pha ymgyrchoedd bydd y gell yn arwain dros y misoedd nesaf.

Cyfarfod Cell Caerdydd

03/09/2014 - 18:00

Bydd cell Caerdydd yn cwrdd fel arfer ar nos Fercher cyntaf mis Medi (y 3ydd) am 6yh yn nhafarn y Diwc of Clarence yng Nghaerdydd. Mae llawer ar droed gan gell Caerdydd, gan gynnwys Siarter Caerdydd.

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Morgannwg-Gwent

17/09/2014 - 19:00

Bydd cyfarfod blynyddol Rhanbarth Morgannwg Gwent yn cael ei gynnal ar nos Fercher yr 17eg o Fedi am 7yh yn nhafarn y Diwc of Clarence, Caerdydd. Dyma un o gyfarfodydd pwysicaf y rhanbarth yn y flwyddyn, lle etholir swyddogion, enwebir cynrychiolwyr i'r senedd genedlaethol a llunir cynigion i fynd ger bron Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas. Gofynwn felly i holl aelodau'r rhanbarth fynychu'r cyfarfod yma.

Diolch

 

Lleoliad: Tafarn y Diwc of Clarence,

Pryd: 17/09/2014 19.00

 

Cyfarfod Cell Caerdydd

02/07/2014 - 18:00

Bydd cyfarfod nesaf Cell Caerdydd am 6yh yn nhafarn y Diwc of Clarence.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 02920 486469 neu ebostiwch de@cymdeithas.org

Gwylnos tu allan i’r Senedd dros 6 newid polisi iaith

Mae caredigion y Gymraeg wedi sefydlu gwersyll o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd gan fynnu bod y Llywodraeth yn newid 6 pholisi iaith gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb a newidiadau i’r gyfraith gynllunio er lles y Gymraeg, cyn datganiad gan y Prif Weinidog wythnos yma.  

Dyfodol addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf

17/06/2014 - 19:00

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu adeiladu stad o 1000 o dai yn Llanilltud Faerdref ac ysgol Saesneg yno yn hytrach nag un Cymraeg. Mae'r ysgolion Cymraeg cyfagos eisoes yn orlawn tra bod dal llefydd yn y rhai Saesneg. Mae yno alw clir am addysg Gymraeg, ond ymddengys fod y Cyngor am anwybyddu'r alwad hynny.

Lleoliad: Canolfan Tabernacl Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf

Dyddiad: 17/06/14

Amser: 7yh

Siarawyr: I'w cadarnhau