Morgannwg Gwent

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent

19/11/2013 - 19:00

Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Morgannwg Gwent am 7yh ar nos Fawrth y 19eg o Dachwedd yng Nghanolfan Soar, Merthyr.

Bydd lifft ar gael i bawb sydd eisiau.

Lleoliad: Canolfan Soar, Merthyr

Pryd: 19.00 19/11/13

Am fwy o wybodaeth, ebostiwch de@cymdeithas.org neu ffoniwch 02920 486 469

Cell Caerdydd yn cefnogi addewidion y Cyngor

Mae Cell Cymdeithas yr Iaith Caerdydd wedi croesawu addewidion a wnaed mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yng nghyfarfod llawn o’r cyngor yr wythnos diwethaf.

Yn ystod dadl arbennig ar yr iaith Gymraeg, cafwyd consensws ymysg cynghorwyr ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd yr iaith a chyhoeddodd y Cyng. Heather Joyce, arweinydd y cyngor, fod bwriad i sefydlu grŵp trawsbleidiol er mwyn edrych ar ffyrdd gall y Cyngor hybu’r Gymraeg yn y ddinas.

Cyhuddo cyngor o 'gamarwain y cyhoedd’ am ei wefan Gymraeg

Mae Cyngor Casnewydd wedi ei gyhuddo o 'gamarwain y cyhoedd' am eu bwriad i ‘weithio’ ar greu gwefan Gymraeg, wedi i ymgyrchwyr weld adroddiad mewnol lle dywedir nad
oes gwaith yn cael ei wneud arni ar hyn o bryd.

Rali dros Ysgol Gymraeg yn Grangetown - datganiad o gefnogaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhyddhau datganiad o gefnogaeth ar gyfer y rali dros ysgol Gymraeg yn Grangetown, Caerdydd.

Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

Cyfarfod Cell Caerdydd

12/11/2013 - 19:00

Bydd cyfarfod nesaf Cell Caerdydd yn dechrau am 19:00 ar ddydd Mawrth y 12fed o Dachwedd yn nhafarn y Diwc (Duke of Clarence), Ffordd Clive, Treganna. 

Bydd lifft ar gael i unrhywun sydd am fynychu. 

 

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 02920 486469 neu ebostiwch De@cymdeithas.org

Cyfarfod Cell De Ddwyrain Gwent

07/11/2013 - 19:00

Bydd cyfarfod nesaf Cell De Ddwyrain Gwent yn dechrau am 19:00 ar ddydd Iau y 7fed o Dachwedd yng ngwasanaethau Magwyr.

Bydd lifft ar gael i unrhywun sydd am fynychu. 

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 02920 486469 neu ebostiwch De@cymdeithas.org

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent

22/10/2013 - 19:00

Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Morgannwg Gwent yn dechrau am 19:00 ar ddydd Mawrth y 22ain o Hydref yng nghlwb y Bont, Pontypridd.

Bydd lifft ar gael i unrhywun sydd am fynychu. 

Barbeciw & cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Morgannwg-Gwent

14/09/2013 - 11:00

Dyma gyfle i ddod i drafod materion sydd yn ymwneud a'r Gymraeg yn y rhanbarth. Dewch i rannu'ch syniadau am y problemau sy'n wynebu'r Gymraeg yn eich ardal a gweld sut gall Cymdeithas yr Iaith gyda'ch help chi newid y sefyllfa.

Byddwn yn cynnal cyfarfod lle byddwn yn trafod trywydd y rhanbarth, yn ethol swyddogion ac yn edrych ar gynigion i fynd gerbron Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ym mis Hydref. Bydd barbeciw ar ol y cyfarfod er mwyn i bawb gael cyfle i gymdeithasu.

Torfaen: Cefnogi ymchwiliad y Comisiynydd, ond angen gwneud mwy

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i benderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i bolisi iaith Cyngor Torfaen ar ôl i’r Cyngor lansio llinell ffôn uniaith Saesneg ddiwedd mis Mehefin.

Fis diwethaf galwodd Cymdeithas yr Iaith ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’i phwerau statudol i gynnal ymchwiliad i fethiannau’r Cyngor.

Tro-pedol Cyngor Caerdydd dros addysg Gymraeg

Cyngor “ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud” - medd Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Caerdydd i ail-ystyried ei gynllun ad-drefnu addysg yn y ddinas wedi i'r Prif Weinidog gadarnhau eu bod yn gweithredu'n groes i'w gynllun addysg Gymraeg eu hunain.

Byddai Cyngor Caerdydd yn gweithredu yn groes i’w gynllun addysg ei hunan petai ei weinyddiaeth Lafur yn penderfynu peidio ag adeiladu ysgol Gymraeg yn ardal Grangetown, medd Prif Weinidog Cymru.