Morgannwg Gwent

Cyfarfod Cell Blaenau Gwent a Chaerffili

16/10/2012 - 19:00

Cyfarfod Cell Blaenau Gwent a Chaerffili - Tafarn y Sirhowy, Coed Duon cysylltwch a barry@cymdeithas.org am ragor o fanylion

Cyfarfod 'Chwarae Teg i Ferthyr'

22/10/2012 - 18:30

Cyfarfod Grwp 'Chwarae Teg i Ferthyr - Gwesty'r Imperial, Pontmorlais, Merthyr Tudful. Croeso i holl aelodau'r Gymdeithas. Byddwn yn trafod yr hyn sy'n effeithio ar y Gymraeg ym Merthyr a mynnu chwarae teg i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yr ardal.

Cyfarfod Cell Caerdydd

08/10/2012 - 19:30

Cyfarfod Cell Caerdydd - Tafarn y Diwc, Treganna, Caerdydd

Gyda dyfodiad teledu lleol Caerdydd ar y gweill mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau darpariaeth Cymraeg teilwng. Dewch i fod yn ran o'r trafodaethau, croeso i bawb

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent

01/10/2012 - 19:30

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent

Clwb y Bont, Pontypridd

Dewch i drafod a threfnu gweithgareddau'r rhanbarth.

Rhagor o wybodaeth jamie@cymdeithas.org

Carchar am 35 diwrnod i Jamie Bevan

Cafodd Jamie Bevan ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful y bore yma am wrthod talu dirwy a orchmynnwyd iddo ei dalu mewn gohebiaeth uniaith Saesneg.

Cafodd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful ei erlyn am iddo wrthod talu dirwy a osodwyd arno am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn toriadau i S4C. Defnyddiodd yr achos i brotestio yn erbyn yr ohebiaeth uniaith Saesneg oddi wrth y llysoedd.

50 mlynedd ymlaen: Rhaid i bopeth ddal i newid, llysoedd uniaith Saesneg

Mae ymgyrchydd iaith wedi derbyn gorchymyn llys uniaith Saesneg, hanner can mlynedd wedi i'r un digwyddiad arwain at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Sadwrn Awst 4ydd). Daw'r newyddion ar yr un dyddiad a gafodd y mudiad ei sefydlu ym Mhontarddulais ym 1962.

Siop sglods Cas-gwent: Gwahoddiad arbennig i Rhodri Morgan

Mae siop sglodion yng Nghas-gwent wedi agor ei drysau ar ei newydd-wedd heddiw  fel y siop Gymraeg gyntaf i bobl ei chyrraedd yng Nghymru. Daw hyn fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mewn partneriaeth gyda'r mudiad iaith, mae siop sglodion yng nghanol tref Cas-gwent “Sgwar Beaufort” wedi gosod arwyddion dwyieithog ac yn annog staff a chwsmeriaid i ddefnyddio'r iaith. Mae perchnogion yn honni mai dyma'r siop Gymraeg gyntaf yng Nghymru, gan ei fod yn ychydig cannoedd o lathau o'r ffin gyda Lloegr.

Gigs Steddfod: "lein-yp cyffrous a'r llety rhataf"

Mae tocynnau gigs Eisteddfod y Gymdeithas wedi mynd ar werth heddiw, gyda threfnwyr yn dweud eu bod wedi cyfuno'r lle rhataf i aros yn ystod y brifwyl gyda'r lein-yp gorau.

Mewn partneriaeth gyda Chlwb Rygbi Llanilltud Fawr, mae'r mudiad wedi sicrhau bod Eisteddfodwyr yn gallu aros mewn pabell am £6 y noson gyda 10% oddi ar bris diodydd i'r rhai sy'n gwersylla.

Cyfarfod Cell Caerdydd

26/06/2012 - 19:00

7yh, Nos Fawrth, 26ain Mehefin
Tafarn Owain Glyndwr

Croeso arbennig i aelodau newydd

Cwis Cell Caerdydd!

14/06/2012 - 19:30

Cwis feistr Geraint Criddle
Sesiwn DJ i ddilyn y cwis gan "Pobl y Twll"

Nos Iau, Mehefin 14 am 7:30

Rocin' Chair, 62-64 Heol y Gadeirlan Is, Glan-yr-afon, Caerdydd, CF11 6LT

Croeso i bawb