Morgannwg Gwent

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent

13/08/2013 - 19:30
Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Morgannwg Gwent yn dechrau am 19:30 ar ddydd Mawrth y 13eg o Awst yng nghanolfan Soar, Merthyr Tudful.
 

Bydd lifft ar gael i unrhywun sydd am fynychu. 

Condemnio Cyngor dros ddiffyg ysgol Gymraeg yn Grangetown

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio penderfyniad cabinet Cyngor 
Caerdydd i fwrw ymlaen â chynllun i beidio â sefydlu ysgol Gymraeg i Grangetown, 
Caerdydd fel un ‘cywilyddus’. 

Daeth tua 50 o ymgyrchwyr lleol i biced tu allan i gyfarfod cabinet y cyngor 

Cyngor Caerdydd yn rhwystro twf addysg Gymraeg

Mae Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r helynt am ysgol Gymraeg yn Nhrelluest (Grangetown).

Cyfarfod Cell De Ddwyrain Gwent

12/09/2013 - 18:00

Ar ôl cyfarfod cyntaf llwyddiannus, bydd cyfarfod nesaf cell De Ddwyrain Gwent yn dechrau am 18.00 ar ddydd Iau'r 12fed o Fedi yn Wetherspoons, Pont-y-pŵl. Dewch i gefnogi gwaith cell fwyaf newydd Cymdeithas yr Iaith a thrafod sut fedrwch chi helpu'r iaith yn yr ardal.

Oedi dros wefan Gymraeg Torfaen - bygwth ymgyrchu

Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryderon mawr am bolisi iaith Cyngor Torfaen wedi iddynt dorri addewid i gyhoeddi safle wê’r Cyngor yn Gymraeg erbyn dechrau’r flwyddyn hon.

Cyfarfod Cell Casnewydd/De Ddwyrain Gwent

09/07/2013 - 19:30

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn nhafarn y Tom Toya, Heol Commercial, Casnewydd, am 7.30yh ar y 9fed o Orffennaf.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch: 02920 486469, neu ebostiwch de@cymdeithas.org.

 

Cyfarfod Cell Caerdydd

09/09/2013 - 19:30

Dewch i gyfarfod cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith i drafod sefyllfa'r Gymraeg yn y ddinas. Dewch i rannu eich syniadau, ac i drafod sut mai hybu twf yr iaith yn y brifddinas.

Lleoliad: Tafarn y Diwc, (Duke of Clarence), Ffordd Clive, Treganna, Caerdydd.

Amser: 7.30yh

 

Am ragor o fanylion: 02920 486469

Cymry Caerdydd yn galw ar y cyngor i ail-ystyried toriadau

Mae rhai o Gymry Cymraeg mwyaf adnabyddus Caerdydd wedi llofnodi llythyr cyhoeddus at Gyngor Dinas Caerdydd yn mynegi eu pryder am gwtogiadau i wasanaethau Cymraeg ychydig ddyddiau cyn gwyl fawr yn y ddinas.

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent

23/07/2013 - 19:30

Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Morgannwg Gwent yn dechrau am 19:30 ar ddydd Mawrth y 23ain o Orffennaf yng Nghlwb y Bont, Pontypridd.

Cwis Cell Caerdydd

18/07/2013 - 20:00

Bydd Cell Caerdydd yn cynnal cwis am 8yh ar nos Iau, Gorffennaf 18, yn nhafarn y Cornwall, Stryd Cornwall, Trelleuest (Grangetown)

Geraint Criddle fydd y cwisfeistr.