Morgannwg Gwent

Rali "Dwi eisiau byw yn Gymraeg yng Nghasnewydd"

05/07/2014 - 11:00

Dewch i gefnogi un o gelloedd ifanca'r Gymdeithas wrth iddyn nhw alw ar Gyngor Casnewydd i ddangos cefnogaeth i'r Gymraeg a galluogi i drigolion y ddinas fyw yn Gymraeg. Mae'r Cyngor Casnewydd wedi bod mor wrthwynebus i'r Gymraeg, ond nawr mae'r gell am fynnu newid!

Lleoliad: Hen Orsaf Rheilffordd, Queensway, Casnewydd, NP20 4AX

Pryd: 11yb ar Ddydd Sadwrn y 5ed o Orffennaf.

Siaradwyr: Jamie Bevan, Steve Blundell, Robin Farrar

Cyfarfod Cell Dwyrain Gwent

18/06/2014 - 18:30

Dewch i drafod gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith yn Nwyrain Gwent. Mae gan y gell lawer ar y gweill, felly dewch draw i weld sut fedrwch chi helpu gyda'r ymdrechion i gefnogi'r Gymraeg. Am fwy o wybodaeth ebostiwch de@cymdeithas.org neu ffoniwch 02920 496469.

Lleoliad: Tafarn y Tom Toya Lewis, Casnewydd

Amser: 18.30

Dyddiad: 18.06.2014

Y Gynhadledd Weithredol dros y Gymraeg - Blwyddyn ers y Gynhadledd Fawr

04/07/2014 - 10:30

Y Gynhadledd Weithredol dros y Gymraeg - Blwyddyn ers y Gynhadledd Fawr

10yb, Dydd Gwener, Gorffennaf 4ydd 2014

Y Pierhead, Bae Caerdydd

Ebostiwch colin@cymdeithas.org er mwyn cofrestru erbyn Dydd Iau Mehefin 26

Siaradwyr: Ystadegydd Hywel Jones, Toni Schiavone, Mared Ifan, Elaine Edwards, UCAC, Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear a Simon Thomas AC.

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent

14/07/2014 - 18:30

Cynhelir y cyfarfod nesaf am 6:30pm, Dydd Llun, Gorffennaf 14 yng Nghlwb y Bont, Pontypridd

Am ragor o wybodaeth - de@cymdeithas.org / 02920 486469

Cyfarfod Cyngor - Casnewydd

05/07/2014 - 12:00

12yp, Dydd Sadwrn, Gorfennaf 5ed

Gwesty Wetherspoon y Queen's (y gwesty, nid y dafarn), 18-22 Heol y Bont, Casnewydd, NP20 4AN. Mae'r fynedfa gyferbyn a Peachy Keen's a'r Travelodge.

Am ragor o fanylion, cysylltwch a Meleri ar 01970 624501 neu meleri@cymdeithas.org

Meddiannu Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu a chau prif fynedfa swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd heddiw,  gan ddweud bod diffyg gweithredu’r Prif Weinidog mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, a ddangosodd cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg, yn creu ‘argyfwng wleidyddol’.

Cyflwyno deiseb i wella sefyllfa’r iaith yng Nghaerdydd

Ar ddydd Iau, cyflwynodd aelodau o gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith ddeiseb i gyngor Caerdydd yn ystod cyfarfod llawn, yn gofyn i’r cyngor weithredu’n gadarnhaol er mwyn sicrhau dyfodol lewyrchus i’r Gymraeg yn y brifddinas.

Lansiwyd y ddeiseb yn ystod gwyl Tafwyl y llynedd ac ymysg galwadau’r ddeiseb mae gwrthdroi toriadau i gyllid yr ŵyl. Mae’r ddeiseb hefyd yn galw ar y cyngor i gynllunio’n bwrpasol a rhagweithiol i ateb y galw cynyddol sydd yn y ddinas am addysg Gymraeg.

Darlith gan Dr John Davies: Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd

29/03/2014 - 18:00

Dr John Davies:
"Yr Iaith Gymraeg Yng Nghaerdydd"
Y Diwc, Heol Clive, Treganna, Caerdydd
Drysau'n agor am 6yh felly dewch draw am sgwrs o flaen llaw, bydd y ddarlith yn dechrau am 7yh
Nos Sadwrn 29ain Mawrth 2014
Mynediad £5 (Neu £3 i fyfyrwyr/di-waith)

Cliciwch yma i weld y manylion ar Weplyfr (Facebook)

Cyfarfod Cell Caerdydd

02/04/2014 - 18:00

Bydd cyfarfod nesaf cell Caerdydd am 6yh ar yr 2il o Ebrill yn nhafarn y Diwc of Clarence. Croeso i bawb.

Steddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015

25/05/2015 - 09:00

Rhwng mis Mai y 25ed a'r 30fed fe fydd Uned Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd! 

Bydd pob digwyddiad ar ein Uned yn yr Eisteddfod (unedau 33/34). Dewch i ffeindio ni! Byddwn gyferbyn â Chaffi Mr Urdd.