Archif Newyddion

18/01/2012 - 10:57
Arwyddodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, a Rhodri Glyn Thomas Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater. Dywedodd Jonathan Edwards AS:
17/01/2012 - 10:45
Mae trefnwyr Hanner Cant, yr wyl gerddorol enfawr gaiff ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 13eg a'r 14eg o Orffennaf i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50, wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o docynnau yn mynd ar werth am bris gostyngol dydd Gwener am hanner dydd. Nos lun, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru, dywedodd Huw Lewis, un o drefnwyr yr wyl:
07/01/2012 - 16:10
Y Gymdeithas i "newid yn radical" yn 50 i ymateb i'r her, medd ei ChadeiryddMAE pryder y bydd dyfodol cymunedau yn cael ei anghofio yn sgil digwyddiadau Prydeinig, yn ôl araith gan Gadeirydd y mudiad heddiw (Dydd Sadwrn, Ionawr 7fed).Wrth i Gymdeithas yr Iaith, ddathlu ei phen-blwydd yn 50, bydd Bethan Williams, Cadeirydd y mudiad yn annerch aelodau mewn fforwm newydd - y Cyngor - heddiw (Dydd Sadwrn 7fed Io
28/12/2011 - 11:39
Ni fydd gan Gymru ei henw fel parth ar y we oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ôl mudiad iaith sydd wedi erfyn ar Weinidogion i newid eu meddwl heddiw.Mewn apêl at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan pryder am effaith ieithyddol methu â sicrhau'r parth lefel-uchaf ".cymru" , fel '.com' neu '.uk' ar y we.Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau proses dendro i ennill ei c
28/12/2011 - 10:23
"FFARS LWYR", dyna asesiad damniol ymgyrchwyr iaith o wasanaethau Cymraeg Cyngor Merthyr, mewn cwyn swyddogol at yr arolygwr awdurdodau lleol, wedi i'r awdurdod lansio gwefan uniaith Saesneg.
19/12/2011 - 11:56
Wrth alw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i nifer o gerddorion Cymru wrth iddynt fynd ar streic am y tridiau nesaf.Meddai Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Nid yn unig ein bod am weld grym dros ddarlledu yn dod yma i Gymru ond fod strwythur Gymreig a Chymraeg yn cael ei greu sydd yn blaenoriaethu ac yn gwneud yn fawr o'n cymunedau. Rydyn ni wrthi'n ceisio cael cefnogaeth trawstoriad o wleidyddion a phobl yn y diwydiant i'n galwadau drwy ofyn iddynt arwyddo ein datganiad.
13/12/2011 - 22:18
Ffilm fer am frwydr ddewr teulu Caerdegog yn erbyn y cwmni Horizon sydd eisiau dwyn eu tir er mwyn codi Wylfa B. Ffilmiwyd: 12 Rhagfyr 2012Cynhyrchwyd, ffilmiwyd a golygwyd gan Rhys Llwyd. Diolch i deulu Caerdegog, Osian Jones Cymdeithas yr Iaith a Clifford Williams PAWB.
06/12/2011 - 22:05
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gymunedau sydd mewn peryg o golli eu hysgolion i "ddal eu tir" gan ddweud y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl.O ganlyniad i gynlluniau a gyhoeddwyd ddoe gan y Llywodraeth am gytundeb "amlinellol" i ddatblygu ac adeiladu ysgolion newydd, mae nifer o gymunedau gwledig Cymraeg yn ofni y caiff eu hysgolion nhwythau eu haberthu.
06/12/2011 - 10:48
Arwyddodd yr Aelod Cynulliad Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.