Archif Newyddion

11/12/2012 - 11:38
  ‘Mae’r Gymraeg mewn argyfwng’, dyna ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ystadegau Cyfrifiad 2011 a gafodd eu rhyddhau heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 11).  
06/12/2012 - 11:02
Mae llai nag un ymhob tair mil o geisiadau cynllunio yn cael eu hasesu am eu heffaith ar yr iaith Gymraeg yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
04/12/2012 - 11:08
Gallai deddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, a gafodd ei chyhoeddi heddiw, danseilio strategaeth iaith y Llywodraeth, yn ôl ymgyrchwyr. Mae'r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil Datblygu Cynaliadwy a fydd yn gwneud datblygu cynaliadwy yn 'prif egwyddor drefniadol' ar gyfer penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus.
28/11/2012 - 17:40
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Lywodraethau Cymru a Phrydain beidio ag oedi wrth weithredu ar y safonau iaith newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg.
23/11/2012 - 17:51
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’n frwd alwad Plaid Cymru ar i’r Cynulliad ddychwelyd at gyhoeddi’r Cofnod o drafodion sesiynau llawn o fewn 24 awr yn gwbl ddwyieithog. Mae’r datganiad yn golygu bod tair allan o’r pedair plaid yn y Cynulliad wedi datgan eu bod am gyhoeddi cofnodion y Cynulliad yn gwbl ddwyieithog ac i’w cyhoeddi’n llawn yn Gymraeg a’r un pryd â’r Saesneg.
21/11/2012 - 10:19
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones AS ddefnyddio ei hawl i sicrhau bod adrannau Llywodraeth Prydain yn cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011 er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaethau Cymraeg priodol i bobl Cymru.
19/11/2012 - 18:41
Cydlynydd Uned Cyswllt y Cynulliad - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Cyflog: £20,000 y flwyddyn pro rata Lleoliad: Caerdydd, ond ystyrier lleoliadau eraill Dyddiad Cau: 12/12/2012 Termau'r Swydd: Cytundeb 1 flwyddyn i gychwyn
13/11/2012 - 16:02
Bydd nifer o gyfarwyddwyr addysg, cynghorwyr arweiniol, prifathrawon, llywodraethwyr ac ymgyrchwyr ymhlith y rhai sydd yn dod at fforwm a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor heddiw i drafod llunio system newydd o gyllido a rheoli ysgolion yng Nghymru.
12/11/2012 - 18:19
Wrth ymateb i'r cais i adeiladau 2000 o dai ar Ynys Môn, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: