Archif Newyddion

25/10/2012 - 09:36
Mae grwp newydd sy’n lobïo dros gymunedau Cymraeg wedi derbyn hwb ariannol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, cyhoeddwyd heddiw.
22/10/2012 - 15:58
Mewn ymateb i'r ffigyrau am y nifer o ail dai, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
19/10/2012 - 16:27
Swyddog Maes Dyfed   Cyflog: £20,000 y flwyddyn Lleoliad: Swyddfa Aberystwyth neu Llanfihangel ar Arth Dyddiad Cau: 2/11/2012
19/10/2012 - 11:09
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder am y ffaith nad oes gan Weinidog Llywodraeth Cymru ddigon o amser i drafod argyfwng cymunedol y Gymraeg. Mewn ymateb i lythyr gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg at y Gweinidog John Griffiths yn gofyn am gyfarfod i drafod effaith newidiadau cynllunio ar yr iaith, mae gwas sifil yn dweud bod ‘ ei ddyddiadur yn llawn ’. Daw’r newyddion er bod pwyslais mawr yn strategaeth iaith Lywodraeth Cymru ar yr her gymunedol sy’n wynebu’r Gymraeg.
08/10/2012 - 16:13
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i sylwadau'r cwmni ynni E.On am ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
08/10/2012 - 15:19
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystyried gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn Plaid Cymru yn sgil agwedd y blaid tuag at bolisi iaith Gymraeg y Cynulliad, cyhoeddodd y mudiad heddiw. 
03/10/2012 - 17:59
Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau i'r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg "Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y Bil wedi ei basio yn y cyfnod hwn yn ei daith ddeddfwriaethol, a'r ffaith bod sicrwydd y bydd Cofnod Cymraeg o sesiynau llawn ar gael i'r cyhoedd."
01/10/2012 - 09:17
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r newyddion heddiw bod aelodau o wahanol bleidiau yn ymdrechu i wella polisi iaith y Cynulliad. Ym Mis Mehefin eleni, galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar i ACau wneud rhagor o newidiadau i'r Bil Ieithoedd Swyddogol i sicrhau bod cofnod o holl drafodion y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi yn llawn yn Gymraeg ar yr un pryd â'r Saesneg. Heddiw, daeth y newyddion bod Suzy Davies AC ac Aled Roberts AC wedi cyflwyno'r gwelliannau hynny.
24/09/2012 - 10:50
Wedi i gorff rheoleiddio benderfynu gwahardd hysbyseb rhag cael ei ddangos ar S4C, darlledodd Sianel 62 yr hysbyseb nos Sul. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
20/09/2012 - 20:54
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion heddiw bod Twitter wedi galluogi defnyddwyr i gyfieithu ei wasanaethau i'r Gymraeg. Croesawodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y newyddion: