Wrth groesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatau i rieni Ysgol Hermon wrandawiad llawn o'u hachos yn erbyn cau ysgol y pentre, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Cymru i gyfrannu at gronfa Ymgyrch Genedlaethol Hermon.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aír argymhelliad y dylai fod gan y Cynulliad hawliau deddfu.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu rhai oír pwyntau hynny a gynhwysir yn y datganiad ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gyflwyno ar lawr y Cynulliad, brynhawn dydd Mawrth, gan Carwyn Jones, y Gwinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau Deddf Iaith ym Mangor dydd Sadwrn Mawrth 13eg. Cynhaliwyd protestiadau tebyg yn ddiweddar yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Heddiw (Dydd Mercher Mawrth 3ydd), bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd gyda Hywel Williams A.S. i gyflwyno llythyr i Gordon Brown a swyddogion y Trysorlys yn Llundain, er mwyn tynnu sylw at y niwed y gall newidiadau gynigir yn y Gyllideb y mis nesaf ei wneud i'r farchnad dai yng Nghymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at holl Aelodau Seneddol Cymru yn gofyn iddynt gefnogi Hywel Williams yn erbyn bwriad Gordon Brown i wneud newidiadauiír Cynlluniau Self Invested Personal Pensions (SIPPS) aír Self Administered Plans yn y Gyllideb y Mis nesaf.
Yn 2000 cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith eu bont yn cyd-weithio gyda'r cwmni Orange i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Erbyn Ionawr 2004 does dim gwasanaethau Cymraeg o unrhywfath gydag Orange.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwahodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i brotest yng Nghaerfyrddin o dan arweiniad Sion Corn.