Bydd gig mwyaf calendr y sin roc Gymraeg yn dod a digwyddiadau’r Eisteddfod i ben eleni wrth i fand mwyf poblogaidd Cymru ryddhau eu EP newydd ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Bydd Anweledig yn cynnal Parti Lansio eu CD diweddaraf, Byw, yng Nghlwb Pont Ebwy, sef prif ganolfan gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y ‘Steddfod!