Mewn trafodaeth ar effeithiolrwydd y Cynllun Cymorth Prynu yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan bod y Llywodraeth yn bwriadu edrych yn fanwl ar reolau’r Cynllun dros y deufis nesaf.
Cafodd saith aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio ym Mhencadlys ‘Orange’ ym Mryste brynhawn ddoe tra'n protestio am Ddeddf Iaith Newydd. Digwyddodd hyn ar ôl iddynt feddiannu rhan o’r pencadlys am dros tair awr a hanner a pheintio sloganau ar y wal.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Sir Gaerfyrddin o chwerthin am ben cynghorwyr etholedig a phobl Sir Gâr trwy gyhoeddi fod y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar gynllun pwysig a dyddiad cyhoeddi'r cynllun terfynol ar yr un dydd - a hwnnw'n Wyl Banc !
Wrth groesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatau i rieni Ysgol Hermon wrandawiad llawn o'u hachos yn erbyn cau ysgol y pentre, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Cymru i gyfrannu at gronfa Ymgyrch Genedlaethol Hermon.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aír argymhelliad y dylai fod gan y Cynulliad hawliau deddfu.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu rhai oír pwyntau hynny a gynhwysir yn y datganiad ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gyflwyno ar lawr y Cynulliad, brynhawn dydd Mawrth, gan Carwyn Jones, y Gwinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau Deddf Iaith ym Mangor dydd Sadwrn Mawrth 13eg. Cynhaliwyd protestiadau tebyg yn ddiweddar yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Heddiw (Dydd Mercher Mawrth 3ydd), bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd gyda Hywel Williams A.S. i gyflwyno llythyr i Gordon Brown a swyddogion y Trysorlys yn Llundain, er mwyn tynnu sylw at y niwed y gall newidiadau gynigir yn y Gyllideb y mis nesaf ei wneud i'r farchnad dai yng Nghymru.