Archif Newyddion

10/10/2003 - 16:11
Yn dilyn cyfarfod o gabinet Cyngor Ceredigion a gynhaliwyd yr wythnos yma mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo arweinyddiaeth y Cyngor o fethuín llwyr ag ymateb i ddyheadau pobl y sir, gan baratoi Cynllun Datblygu Unedola fydd yn sicrhau dyfodol i gymunedau lleol aír iaith Gymraeg.
29/09/2003 - 16:42
Yn Aberystwyth prynhawn dydd Sadwrn (27/09/03) , am 1pm, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yr ail brotest mewn cyfres yn erbyn cwmni McDonalds. Prif fwriad y brotest oedd galw ar y cwmni i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Ar yr un pryd, roedd y protestwyr yn galw ar y cwmni i gefnogiír economi leol, trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol.
29/09/2003 - 16:39
Disgwylir cynulliad da i ddod ynghyd i gyfarfod cyhoeddus ym Mhenygroes, heno nos Lun Medi 29ain, i drafod un o bynciau poeth y dydd. Cynlluniau ELWa a'r bygythiad i'r 6ed dosbarth mewn sawl ysgol yn Arfon sydd wedi ysgogi Cymdeithas yr Iaith i drefnu'r cyfarfod.
24/09/2003 - 16:45
Ar drothwy'r ddadl ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gynnal yn y Cynulliad prynhawn yma, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu a phob un o Aelodau'r Cynulliad yn tynnu eu sylw at gamau penodol y gall y llywodraeth eu cymryd i leddfu'r sefyllfa. Pwysleiswyd fod rhai camau y dylid eu cymryd erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad.
12/09/2003 - 16:54
Yng Nghaerfyrddin yfory, am 1pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cychwyn cyfres o brotestiadau yn erbyn cwmni McDonalds. Prif fwriad y brotest fydd galw ar y cwmni i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Ar yr un pryd, bydd y protestwyr yn galw ar y cwmni i gefnogi'r economi leol, trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol.
10/09/2003 - 17:14
Bydd pentrefwyr Penygroes yn dod gyda'i gilydd yr wythnos nesaf (Medi 22) i brotestio yn erbyn gostyngiad yn oriau'r banc yn y pentref.
29/08/2003 - 13:15
Er mwyn sicrhau dyfodol cynaladwy iín cymunedau, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau cynydd mawr yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu ac hefyd sefydluír ëHawl i Rentuí erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad ym mis Tachwedd.
18/08/2003 - 13:20
Ar y dydd Llun (Awst 18ed) mae Taith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o Langefni i Gaerdydd ar ei thrydydd diwrnod ac yn mynd o Benygroes i Bwllheli. Ym Mhenygroes daeth criw ynghyd i ddymuno'n dda i'r cerddwyr. Yn eu mysg roedd Angharad Tomos, Ben Gregory a Judith Humphreys. Roedd yr Aelod Cynulliad lleol Alun Ffred Jones a Walis Wyn George, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Eryri yno hefyd.
08/08/2003 - 13:25
Am y tro cyntaf mae Cymuned a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal protest ar y cyd a hynny ar Faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ym Meifod brynhawn dydd Gwener. Bwriad y brotest oedd tynnu sylw at yr argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru a phwysleisio rhai camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd er mwyn ymdrin ’'r broblem.
04/08/2003 - 13:31
Yng Nghylch yr Orsedd ddydd Llun galwodd yr Archdderwydd am Ddeddf Iaith newydd. Wrth annerch cyn urddo'r aelodau newydd i'r Orsedd, galwodd Robyn Lewis am "ddeddf iaith newydd wedi'i theilwrio ar gyfer Cymru ddatganoledig yr 21ain ganrif".