Archif Newyddion

12/10/2018 - 14:28
  Cynghorau i sefydlu banciau lleol yn un o’r atebion mewn dogfen economaidd Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi dwsin o argymhellion i gryfhau’r economi ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, 13eg Hydref) mewn ymdrech i leihau’r allfudo o Gymru sy’n 'argyfwng i'r iaith’ yn ôl y Gymdeithas. [Cliciwch yma i agor y ddogfen lawn]
10/10/2018 - 10:47
Mae Heledd Gwyndaf o Dalgarreg, Ceredigion wedi cael ei dedfrydu i dalu £170 wedi iddi ymddangos gerbron llys yr ynadon yn Aberystwyth heddiw (ddydd Mercher y 10fed o Hydref) am wrthod talu ei thrwydded deledu.  
01/10/2018 - 10:36
Mae angen symud cannoedd o swyddi allan o’r brifddinas, meddai’r Gymdeithas Dylid sefydlu adran newydd o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am y Gymraeg fel rhan o gynllun ehangach i symud cannoedd o swyddi i ardaloedd y tu allan i'r brifddinas, yn ôl ymgyrchwyr.
27/09/2018 - 09:49
Argymhelliad i ddileu Cymraeg Ail Iaith heb ei weithredu gan y Llywodraeth  Bydd gwirfoddolwyr yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg eu hunain heddiw (dydd Iau, 27ain Medi) yn sgil methiant Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad adroddiad annibynnol i ddisodli Cymraeg Ail Iaith.
24/09/2018 - 11:25
Bydd dyfodol ysgolion gwledig yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd yn y ddau ben o Gymru yfory (dydd Mawrth, 25ain Medi). Yn adeilad y senedd ym Mae Caerdydd, bydd y Pwyllgor deisebion yn trafod tynged y ddeiseb a lofnodwyd gan dros 5000 o bobl yn galw ar y Gweinidog Addysg i esbonio pa gamau y gellid eu cymryd i sicrhau fod Awdurdodau Lleol ddim yn anwybyddu'r Côd Trefniadaeth Ysgolion sy'n mynnu fod chwilio pob opsiwn arall cyn bod cynnig cau ysgolion, a'r côd newydd sy'n gosod rhagdyb o blaid eu cadw.
19/09/2018 - 10:57
Mae mudiad iaith wedi croesawu manylion am y buddsoddiad yn addysg Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw, gan gefnogi galwadau gan Rieni dros Addysg Gymraeg i ehangu maint y gronfa gyfalaf yn sylweddol y flwyddyn nesaf.   Meddai Tamsin Davies, Is-gadeirydd Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith: 
15/09/2018 - 13:18
Wrth agor fforwm cyhoeddus "Gwaith i gynnal yr Iaith" heddiw, ddydd Sadwrn 15/9, yn Llyfrgell Caerfyrddin, croesawodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr iaith yn Sir Gâr bawb at "dderbyniad priodas". Esboniodd wrth gynrychiolwyr cynghorau cymuned a mudiadau addysgol a gwirfoddol - "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu dwy drafodaeth gyfangwbl ar wahân yn Sir Gâr. Bu llawer o drafod ar ddatblygu economaidd i greu swyddi, a
13/09/2018 - 12:19
Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo Prifysgol Aberystwyth o ‘dorri addewid’ drwy oedi rhag ail-agor Neuadd Pantycelyn tan fis Medi 2020.&nb
10/09/2018 - 09:56
Mae mudiad iaith wedi galw am fwy o gamau i sicrhau bod mwy o elfennau Cymraeg wedi'u cynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cwricwlwm newydd i ddod i rym yn 2022.