Archif Newyddion

12/07/2018 - 15:15
Mae awdur adroddiad annibynnol ar S4C, Euryn Ogwen, wedi dweud bod ‘ei galon’ o blaid datganoli darlledu i Gymru gerbron pwyllgor yn y Cynulliad.  Wrth ymateb i gwestiwn gan Bethan Sayed AC, dywedodd bod ‘fy nghalon i yn dweud, o ie’ y dylid trosglwyddo pwerau darlledu o San Steffan i'r Senedd yng Nghymru.     
07/07/2018 - 15:07
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llafur Cymru o amddiffyn cwmnïau fel Trago Mills drwy gynllunio i wanhau deddfwriaeth iaith, cyn protest ym Merthyr Tudful heddiw (11yb, dydd Sadwrn, 7fed Gorffennaf).  
02/07/2018 - 10:46
Bydd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd yn dadlau dylid ystyried agor ysgolion newydd yn y brifddinas dim ond os ydyn nhw’n rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, mewn araith heddiw (11:30yb, dydd Sul, 1af Gorffennaf).    
29/06/2018 - 10:21
Mae mudiad iaith wedi beirniadu Trago Mills yn hallt, wedi i gopi o lythyr oddi wrth y cwmni am ei siop newydd ym Merthyr, sy'n llawn sylwadau gwrth-Gymraeg, ddod i'r amlwg.  Er gwaethaf ymrwymiad yn y llythyr i osod rhai arwyddion dwyieithog ar safle'r siop newydd ym Merthyr Tudful, ar hyn o bryd, arwyddion uniaith Saesneg sydd yn y siop.  
20/06/2018 - 13:58
Mae mudiad iaith wedi croesawu ystadegau sy'n dangos bod mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau gweld mwy o ymdrech gan y Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg. 
19/06/2018 - 13:03
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad cabinet Cyngor Sir Fflint i beidio â bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad i ddileu’r ddarpariaeth gludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg.   
13/06/2018 - 10:37
 Mae methiant Gweinidog i ddatgan ei bod yn briod â rhywun sy'n bartner mewn meddygfa wrth benderfynu eithrio'r rhan fwyaf o'r proffesiwn o reoliadau iaith wedi arwain at gŵyn gan fudiad iaith.
05/06/2018 - 17:32
Mewn ymateb i ymgais Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda diddymu Comisiynydd y Gymraeg, meddai Heledd Gwyndaf
05/06/2018 - 09:49
 Mae Gweinidog y Gymraeg wedi cael ei chyhuddo o gamarwain y Senedd drwy honni bod cefnogaeth i'w chynlluniau i newid deddfwriaeth iaith mewn cwyn swyddogol, cyn iddi wneud datganiad ar y mater heddiw (dydd Mawrth, 5ed Mehefin).