Archif Newyddion

27/05/2019 - 11:18
Mae mudiad iaith wedi lansio ymgyrch dros sefydlu Menter Iaith Ddigidol gan ddweud bod ‘datblygu’r iaith ar-lein yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg’.
20/05/2019 - 11:00
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i ddiddymu'r penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares. Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Mae'r swyddogion a'r cynghorwyr wedi bod yn ddewr yn ymddiheuro'n agored oherwydd eu bod, yng ngeiriau'r Prif Weithredwr Dr Gwynne Jones, 'am barchu'r cymunedau yr ydym yn cydweithio â nhw'.
18/05/2019 - 13:09
Daeth ymgyrchwyr ynghyd ym Mhenrhyndeudraeth heddiw i drafod camau polisi i ddelio ag effaith ail gartrefi ar y Gymraeg. O dan gadeiryddiaeth y pensaer, y gweithredwr cymdeithasol a’r ymgyrchydd iaith Sel Jones, trafododd Liz Saville Roberts AS, Elfed Roberts ac Elin Hywel wahanol agweddau o’r pwnc. Yn ôl ystadegau diweddar, roedd 39% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd yn 2017/18 yn ail gartrefi. Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:
15/05/2019 - 12:12
Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Gâr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori i newid darpariaeth Cyfnod Sylfaen ysgolion Y Ddwylan, Griffith Jones, Llangynnwr a Llys Hywel i fod yn Gymraeg a newid  Ysgol Rhys Pritchard o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin: "Rydyn ni'n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny."
13/05/2019 - 11:59
Dim ond un cyngor yng Nghymru sydd wedi cynnig prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y pedair blynedd diwethaf, yn ôl ymchwil gan fudiad iaith. Mae ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth Cymdeithas yr Iaith wedi datgelu mai dim ond un cyngor sydd wedi cyflogi prentisiaid sydd wedi gwneud eu fframwaith cymhwyster drwy gyfrwng y Gymraeg dros y pedair blynedd diwethaf, sef Cyngor Rhondda Cynon Taf.
10/05/2019 - 13:38
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu argymhelliad bwrdd o arbenigwyr y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg. Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r system o gynllunio addysg Gymraeg, dywed panel o arbenigwyr, sy’n gynnwys yr Athro Dylan Foster Evans a Meirion Prys Jones:
08/05/2019 - 14:12
Mae Prifysgol Bangor wedi dod o dan y lach wedi iddi hysbysebu pedair swydd nyrsio heb osod y Gymraeg fel sgil hanfodol, ar ôl torri swydd cyfrwng Cymraeg yn yr un maes ychydig wythnosau yn ôl.
07/05/2019 - 15:10
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad pwyllgor deisebau’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, 7fed Mai) i ystyried newidiadau i’r gyfraith er mwyn gwarchod ysgolion bychain. Daw’r newyddion yn sgil trafodaethau’r pwyllgor ar ddeiseb a gyflwynwyd gan rieni ac ymgyrchwyr Ysgol Bodffordd yn yr Eisteddfod y llynedd a arweiniodd at dro pedol gan Gyngor Ynys Môn ar ei gynlluniau i gau’r ysgol.
03/05/2019 - 12:24
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’n wresog dro pedol Cyngor Ynys Môn sy’n golygu na fyddan nhw’n cau Ysgol Bodffordd.  
25/04/2019 - 10:33
Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu Arweinydd Cyngor Caerdydd am dorri addewid i agor ysgol benodedig Gymraeg fel rhan o ddatblygiad tai enfawr yn y ddinas.