Archif Newyddion

25/09/2019 - 16:11
Mae menyw o Geredigion yn mynd i barhau i wrthod talu dirwy a gafodd am ei rhan yn yr ymgyrch i ennill pwerau darlledu i Gymru, er gwaethaf ymweliad gan feilïaid ychydig wythnosau yn ôl.
21/09/2019 - 12:34
Daeth cynghorwyr o wahanol bleidiau a swyddogion o adran y Prif Weithredwr i fforwm cyhoeddus gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin heddiw, er mwyn trefnu defnydd y cyngor ei hun o'r Gymraeg
18/09/2019 - 10:49
Mae Gweinidog wedi ei beirniadu'n hallt gan ymgyrchwyr iaith am gyhoeddi ei bod yn gwrthod darparu gwersi Cymraeg i ffoaduriaid yn rhad ac am ddim. Mae ceiswyr lloches yn cael eu gwahardd rhag gweithio, ac yn byw ar £5.39 y diwrnod gan Lywodraeth Prydain, felly nid oes modd iddynt dalu am wersi. Mae Llywodraeth Cymru felly yn ariannu gwersi Saesneg yn rhad ac am ddim i ffoaduriaid a cheisiwr lloches, ond dydyn nhw ddim yn rhoi'r un hawl i wersi Cymraeg am ddim.
17/09/2019 - 12:52
Y penwythnos yma bydd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â chynghorwyr o wahanol bleidiau a swyddogion o adran y Prif Weithredwr, i fforwm cyhoeddus a drefnir gan ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith er mwyn trefnu defnydd y cyngor ei hun o'r Gymraeg. Cynhelir y fforwm agored am 09.30 fore Sadwrn yma 21ain Medi yn Llyfrgell Caerfyrddin, a bydd cyfle i'r cyhoedd holi cwestiynau i'r cynghorwyr a chyfrannu at y trafod.
02/09/2019 - 15:36
Gwrthododd Comisiynydd newydd y Gymraeg ymchwilio i dros saith deg y cant o’r cwynion a dderbyniodd am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yn ei fis cyntaf yn y swydd - y ganran uchaf ers i’r Safonau ddod i rym - yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law mudiad iaith. 
23/08/2019 - 10:02
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am gynlluniau Prifysgol Aberystwyth i gau cwmni cyhoeddi sy’n cynhyrchu adnoddau dysgu Cymraeg.
09/08/2019 - 22:21
Mae mudiad iaith wedi galw am Ddeddf Addysg Gymraeg er mwyn sicrhau bod pob cyngor yn ehangu canolfannau trochi sy’n galluogi plant i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn rali ar faes yr Eisteddfod.
08/08/2019 - 17:30
Fe alwodd ymgyrchwyr iaith ar Lywodraeth Cymru i lunio polisi a fyddai’n sefydlu hawliau i fudwyr ddysgu’r Gymraeg, mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod heddiw (11yb, dydd Iau, 8fed Awst).  
07/08/2019 - 17:13
Mi fyddai ymgyrchwyr iaith yn barod i gefnogi protestiadau mewn cymunedau gwledig er mwyn atal Brecsit caled, meddai mudiad iaith yn yr Eisteddfod heddiw. Fis diwethaf, rhybuddiodd ffermwyr y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb arwain at anufudd-dod sifil ar lawr gwlad. Ac mewn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst heddiw, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith y byddai’r mudiad yn cefnogi unrhyw brotestiadau di-drais a drefnir gan ffermwyr ar lawr gwlad er mwyn amddiffyn cymunedau gwledig.
06/08/2019 - 19:38
Mae angen symud ar frys i sefydlu Menter Iaith Ddigidol a fyddai’n mynd ati i wella presenoldeb y Gymraeg ar-lein gan ei bod bron yn anweledig ar hyn o bryd, yn ôl mudiad iaith.