Archif Newyddion

22/06/2019 - 19:53
Bydd ymgyrchwyr yn lansio deiseb yng ngŵyl Tafwyl heddiw (dydd Sadwrn, 22ain Mehefin) yn galw ar i Gyngor Caerdydd wneud yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad tai newydd yng ngogledd-orllewin y ddinas yn un cyfrwng Cymraeg yn hytrach na dwyieithog. Ym mis Ebrill eleni, ac yn groes i addewid Arweinydd Cyngor Caerdydd i agor ysgol benodedig Gymraeg fel rhan o’r datblygiad tai enfawr, cytunodd cabinet y cyngor i ymgynghori ar gynnig i agor ffrwd Saesneg o fewn yr ysgol gyntaf.
15/06/2019 - 16:43
Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu her gyfreithiol os yw’n bwrw ymlaen gyda newid polisi a fyddai’n atal cynghorwyr rhag comisiynu asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio, yn ôl bargyfreithiwr.
12/06/2019 - 07:22
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ddiswyddiad aelod o gabinet Cyngor Wrecsam yn sgil diffygion cyson yn ei wasanaethau Cymraeg ac adroddiadau ffeithiol anghywir, cyn i gyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol drafod y mater heddiw (dydd Mawrth, 11eg Mehefin).
07/06/2019 - 18:00
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymddiheuriad gan gorff sy’n cynrychioli optegwyr ar ôl iddyn nhw ddweud na ddylai eu haelodau cynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cleifion.
01/06/2019 - 13:16
Mae grŵp o ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg wedi galw ar y Llywydd Elin Jones i ollwng ei chynlluniau i roi enw Saesneg ar y Senedd mewn llythyr agored ati heddiw (dydd Gwener, 31ain Mai).
30/05/2019 - 19:34
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i lansiad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoliadau addysg Gymraeg heddiw gan ddweud bod ‘gwir angen Deddf Addysg Gymraeg’.  Yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r system o gynllunio addysg Gymraeg, dywed panel o arbenigwyr:
30/05/2019 - 17:28
Dim ond prentisiaethau cyfrwng Saesneg a gynhaliwyd gan S4C yn ystod y pedair blynedd diwethaf, yn ôl ymchwil gan fudiad iaith.
27/05/2019 - 11:18
Mae mudiad iaith wedi lansio ymgyrch dros sefydlu Menter Iaith Ddigidol gan ddweud bod ‘datblygu’r iaith ar-lein yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg’.
20/05/2019 - 11:00
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i ddiddymu'r penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares. Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Mae'r swyddogion a'r cynghorwyr wedi bod yn ddewr yn ymddiheuro'n agored oherwydd eu bod, yng ngeiriau'r Prif Weithredwr Dr Gwynne Jones, 'am barchu'r cymunedau yr ydym yn cydweithio â nhw'.
18/05/2019 - 13:09
Daeth ymgyrchwyr ynghyd ym Mhenrhyndeudraeth heddiw i drafod camau polisi i ddelio ag effaith ail gartrefi ar y Gymraeg. O dan gadeiryddiaeth y pensaer, y gweithredwr cymdeithasol a’r ymgyrchydd iaith Sel Jones, trafododd Liz Saville Roberts AS, Elfed Roberts ac Elin Hywel wahanol agweddau o’r pwnc. Yn ôl ystadegau diweddar, roedd 39% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd yn 2017/18 yn ail gartrefi. Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith: