Archif Newyddion

21/01/2020 - 12:42
Mae Cymdeithas yr Iaith yn siomedig fod Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu heddiw cychwyn Ymgynghoriad Statudol ar gynnig negyddol unwaith eto i geisio cyllid ar gyfer addysg yn Llangefni trwy gau ysgolion gwledig. Yr oedd y Gymdeithas wedi galw ar y Pwyllgor Gwaith yn hytrach i ddefnyddio'r cyfnod o chwe wythnos i greu consensws. Mae cytundeb bod angen buddsoddiad yn Llangefni, ond mae hefyd rhoi sicrwydd hefyd i'r ysgolion pentrefol ym Modffordd a Thalwrn.
17/01/2020 - 13:34
Dim ond 15 ymateb gefnogodd cynnig Cyngor Caerdydd i agor ysgol ddwyieithog ym Mhlasdŵr o gymharu â channoedd a alwodd am ysgol cyfrwng Cymraeg, yn ôl adroddiad swyddogion i gynghorwyr.  Ym mis Medi 2018, dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw Thomas “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Fodd bynnag, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg.
14/01/2020 - 14:15
Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi penderfynu drwy bleidlais agos heddiw i fwrw ymlaen gyda chynlluniau i geisio cau ysgolion Bodffordd a Thalwrn. O flaen tua thri deg o gefnogwyr yr ysgolion, methodd gwelliant i gadw Ysgol Bodffordd ar agor o saith pleidlais i bump mewn cyfarfod o bwyllgor craffu’r cyngor. Yn dilyn y penderfyniad heddiw, bydd Pwyllgor Gwaith y Cyngor yn penderfynu ddydd Llun nesaf a fyddant yn bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion i gau’r ysgolion.
08/01/2020 - 12:57
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, i gamu i mewn yn syth i atal Cyngor Ynys Môn rhag dial ar ddwy ysgol wledig Gymraeg a arbedwyd ganddi lai na blwyddyn yn ôl.  Lai na blwyddyn ar ôl i Gyngor Ynys Môn orfod tynnu nôl eu cynnig i gau ysgolion Bodffordd a Thalwrn wedi i'r Gweinidog anfon swyddogion i ymchwilio, mae'r Cyngor yn ailgychwyn y broses eto yr wythnos nesaf gydag union yr un cynnig i bob pwrpas.
06/01/2020 - 20:04
Mae Gweinidogion Cymru wedi torri’r gyfraith drwy beidio â sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar drenau, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
23/12/2019 - 20:58
Mae rhai o’r cynghorau mwyaf yng Nghymru - gan gynnwys Caerdydd, Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin - yn colli allan ar filiynau o bunnau'r flwyddyn drwy beidio â defnyddio pwerau i godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi.
17/12/2019 - 13:30
Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu toriadau i wariant ar brosiectau penodol ar gyfer y Gymraeg yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu o dros £1 biliwn, o £19 biliwn eleni i £20.2 biliwn flwyddyn nesaf - cynnydd o 5.8% mewn termau arian parod.
09/12/2019 - 22:02
Mae mudiad iaith wedi galw am newidiadau mawr er mwyn cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon sy’n addysgu drwy’r Gymraeg, cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi rheoliadau addysg newydd yr wythnos yma. Ers pedair blynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r mudiad yn galw ar y Llywodraeth:
06/12/2019 - 17:29
Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg gerdyn Nadolig dychanol oddi wrth ymgyrchwyr heddiw sy’n honni bod Llywodraeth Cymru wedi ei lwgrwobrwyo i wanhau hawliau iaith. Mae’r Comisiynydd, a ddechreuodd ei swydd ym mis Ebrill eleni, wedi bod yn ymchwilio i lai na 40% o’r cwynion a dderbynnir ganddo - hanner lefel ei ragflaenydd. Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i’r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella.