Archif Newyddion

14/12/2020 - 14:19
Am 9am bore yfory (Dydd Mawrth 15ed o Ragfyr), bydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn trafod deiseb a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith sy'n galw ar y Llywodraeth i roi i Awdurdodau Lleol rymoedd i reoli'r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a thwristaidd. Rydym hefyd wedi penderfynu y byddwn yn trefnu y flwyddyn nesaf Rali Genedlaethol "Nid yw Cymru ar werth" ar hyd argae Tryweryn ger Y Bala lle boddwyd cymuned wledig Gymraeg Capel Celyn 55 mlynedd yn ôl.  
14/12/2020 - 14:01
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymddiswyddiad Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru yn sgil bwriad y corff i danseilio’r broses ddemocrataidd drwy wrthod datblygu un cymhwyster Cymraeg, a thrwy hyn wrthwynebu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyflwyno un continwwm o addysg Gymraeg.   
27/11/2020 - 17:36
  Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gefnu ar eu cynlluniau i wneud Saesneg yn fandadol o 3 oed ymlaen ond yn galw ar y Llywodraeth i fynd ymhellach drwy ollwng Saesneg yn gyfangwbl o Fil y Cwricwlwm a chyflwyno addysg Gymraeg i bawb.   
23/11/2020 - 16:53
  Daeth tua hanner cant o ymgyrchwyr ynghyd dros y penwythnos (ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd) i dynnu sylw at yr argyfwng tai sydd yn golygu na all pobl brynu cartrefi yn eu cymunedau ac sy’n cyfrannu at yr allfudiad difrifol o bobl ifanc o Geredigion.   
18/11/2020 - 17:54
Fel rhan o Rali aml-safle "Nid yw Cymru ar Werth" fore Sadwrn yma, 21/11, bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth Neuadd y Sir Caerfyrddin yn pwyso ar Gynghorau Sir Caerfyrddin a Phenfro i gefnogi'r ymgyrch. Cyflwynir llythyr i gynrychiolydd y ddau Gyngor Sir yn gofyn iddynt bwyso ar y Llywodraeth i roi grymoedd argyfwng i Awdurdodau Lleol i reoli'r farchnad dai er mwyn sicrhau cartrefi i bobl leol.
13/11/2020 - 13:59
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin yn mynnu mewn fforwm cyhoeddus yfory (dydd Sadwrn 14/11) y dylai'r gallu i gyfathrebu a chyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn sgil addysgol hanfodol i bob myfyriwr mewn addysg ôl-16 yn y sir. Bydd Toni Schiavone, sy'n gyn-gynghorydd i Lywodraeth Cymru ar addysg, yn lansio'r ymgyrch ar ran y Gymdeithas. Yn ymateb yn ffurfiol fe fydd: * Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin - Cynghorydd Glynog Davies (Deiliad portffolio addysg ar y Bwrdd Gweithredol) a'r Cyng Peter
07/11/2020 - 16:15
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi ethol Mabli Siriol yn gadeirydd newydd y mudiad iaith. Cyhoeddwyd y newydd hwn heddiw (07 Tachwedd) yn ein cyfarfod cyffredinol rithiol yn dilyn cyfnod o bleidleisio post. Mae Mabli Siriol yn olynnu Bethan Ruth, fuodd yn gadeirydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Buodd Mabli’n gadeirydd ein Grŵp Addysg cyn cael ei hethol i’w rôl newydd. 
26/10/2020 - 13:12
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynnydd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru parthed y Gymraeg. Dywedodd Gwerfyl Roberts, Cadeirydd ein grŵp iechyd:   “Rydym yn falch o weld bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ymateb i bryderon a diwygio ei strategaeth er mwyn ceisio datblygu gweithlu a all ddiwallu anghenion iechyd a gofal pobl drwy gyfrwng y Gymraeg.
23/10/2020 - 15:37
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Iwan Davies, yn galw arno i ail-ystyried cynlluniau presennol Prifysgol Bangor ar gyfer dyfodol Canolfan Bedwyr, ac am gyfarfod brys gydag yntau.   Rydym hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i Undeb UCU Bangor yn ei bleidlais diffyg hyder yn arweinyddiaeth y Brifysgol.