Archif Newyddion

08/06/2021 - 10:43
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "ddi-fflach" ac yn "rhagweladwy" yn eu cynnig a fydd gerbron y Cabinet wythnos i heddiw (Dydd Mawrth 15/6) i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn dilyn ymgynghoriad yn Ionawr a Chwefror eleni. Os caiff y cynnig ei basio, bydd cyfle i wrthwynebu'n ffurfiol Hysbysiad Statudol i gau'r ysgol ond, os bydd y Cyngor unwaith eto'n peidio â newid ei feddwl, gallai'r ysgol gau ar ddiwedd 2021, gan drosgwlyddo'r plant i Ysgol Sarn Bach.
07/06/2021 - 17:28
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, i gyflwyno “pecyn o gynigion” i daclo’r argyfwng tai ond yn pwylseisio y dylai’r pecyn hwnnw fod yn “radical a chynhwysfawr”.
28/05/2021 - 10:28
  Gyda Llywodraeth San Steffan yn y broses o benderfynu ar setliad ariannol S4C ar gyfer y cyfnod 2022-27, mae mudiad iaith wedi dweud taw dyma’r ‘tro olaf’ dylai’r cyfrifoldeb fod yn eu dwylo nhw. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Weinidog Cyfryngau a Data y Deyrnas Gyfunol, John Whittingdale AS, yn galw am drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru er mwyn sicrhau setliad ariannol teg i’r sianel.    Dywed y llythyr:
20/05/2021 - 14:13
Am 1pm Sadwrn 10ed o Orffennaf, disgwylir cannoedd o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i ffurfio
04/05/2021 - 14:17
A ninnau yng nghanol etholiad, mae’n angenrheidiol argyhoeddi’r pleidiau o’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf a’r angen i flaenoriaethu’r Gymraeg yn hytrach na’i gadael yn ôl-ystyriaeth. Fel dinasyddion a phleidleiswyr, mae’r grym yn ein dwylo ni; mae’n hollbwysig ein bod felly’n ystyried record yr ymgeisyddion ar, a’u gweledigaeth ar gyfer, y Gymraeg cyn ein bod yn bwrw’n pleidlais.
15/04/2021 - 15:04
  Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni fod Cymwysterau Cymru yn “cyfaddef eu bod yn bwriadu cadw ac ail-frandio cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith” er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno un continwwm o ddysgu’r Gymraeg.
12/04/2021 - 10:22
Mae Cymwysterau Cymru – corff anetholedig – yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ddyfodol cymwysterau TGAU yng Nghymru i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd.
08/04/2021 - 16:11
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth Gynghorwyr Sir Gâr fod swyddogion i'w gweld yn anwybyddu cyfarwyddyd i ddefnyddio'r 4 mis nesaf i drafod gyda chymunedau lleol ddyfodol eu hysgolion lleol. Penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ar Fawrth 1af i estyn cyfnod ymgynghoriad ar gynigion i gau Ysgolion Mynydd-y-Garreg a Blaenau tan ddiwedd tymor yr haf mewn ymateb  i ganllawiau diwygiedig y Gweinidog Addysg am gynnal ymgynghoriadau mewn pandemig.
18/03/2021 - 15:52
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lambastio ymateb Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, i ddeiseb Cymdeithas yr Iaith mewn dadl ddoe (17 Mawrth) yn y Senedd.  
17/03/2021 - 11:21
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Aelodau o’r Senedd i “weithredu nawr i daclo’r argyfwng tai, cyn y bydd yn rhy hwyr i achub ein cymunedau.”  Bydd dadl yn digwydd yn y Senedd heddiw (17 Mawrth) i drafod deiseb Cymdeithas yr Iaith, a arwyddwyd gan 5,386 o bobl, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru roi grymoedd i awdurdodau lleol reoli’r farchnad dai.