Archif Newyddion

01/03/2021 - 12:15
Wrth sylwi ar benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin i estyn cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol Ysgol Mynydd-y-Garreg tan ganol Gorffennaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Cyngor i ddefnyddio'r amser i roi sicrwydd i'r ysgol am ei dyfodol. Dywed Ffred Ffransis ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o'r Gymdeithas:
26/02/2021 - 18:09
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lambastio grŵp o dri Aelod Senedd sydd yn arwain dadl Ddydd Mercher nesaf (3/3/21) ar gefnogi ysgolion pentrefol. Bydd Caroline Jones AS ar ran "Grŵp Annibynnol dros Ddiwygio" (sef cyn-aelodau UKIP a Phlaid Brexit) yn agor y ddadl yn siambr y Senedd. Mewn ymateb, dywed Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith:
22/02/2021 - 11:19
Mae Cymdeithas yr Iaith heddiw (22 Chwefror) yn lansio DIOGELWN, sef cynllun  newydd i warchod enwau tai Cymraeg.    Fel rhan o’r cynllun, rydym wedi cyhoeddi dogfennau cyfreithiol y mae modd eu lawrlwytho a’u defnyddio gan unrhyw berson yng Nghymru sydd eisiau diogelu enw Cymraeg eu cartref, boed nhw’n bwriadu gwerthu eu tŷ neu beidio.  
15/02/2021 - 17:14
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi honni fod rhieni ysgolion pentrefol dan fygythiad yn cael eu trin fel darnau bach mewn gêm wleidyddol gan y pleidiau. Heddiw, wrth adnewyddu'r caniatâd i Awdurdodau Lleol gynnal ymgynghoriadau yn ystod pandemig tra bo'r ysgolion ar gau, mae'r Gweinidog Addysg wedi ychwanegu'r nodyn canlynol, nad oedd yn y canllawiau gwreiddiol a gyhoeddwyd ar y 7ed Ionawr:
08/02/2021 - 13:38
Mae'n cadeirydd cenedlaethol, Mabli Siriol, heddiw wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams er mwyn galw arni i gryfhau addysg Gymraeg ym mhob cornel o Gymru cyn diwedd y tymor Seneddol.
08/02/2021 - 12:28
Mae ymgyrchwyr wedi dweud nad ydynt yn deall penderfyniad rheolwyr canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd i wrthod cynlluniau i’w hadfer ac i’w gwerthu yn lle. Eiddo cymunedol yw Tŷ’r Cymry, sydd wedi ei leoli yn ardal y Rhath yn y brifddinas, a roddwyd i Gymry Cymraeg Caerdydd ym 1936 er mwyn hyrwyddo’r iaith a statws cyfansoddiadol i Gymru.
04/02/2021 - 15:09
Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu ymateb y Gweinidog Tai, Julie James, i gwestiynau yn y Senedd ddoe gan Weinidog Cysgodol Tai Plaid Cymru, Delyth Jewell, ynghylch yr argyfwng ail dai. 
03/02/2021 - 18:53
Ar gyfer Wythnos Prentisiaethau, galwn ar gyrff cyhoeddus a chyflogwyr ledled Cymru i fuddsoddi mewn prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.    Dywedodd cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone:  
02/02/2021 - 22:20
  Mae ymgyrchwyr iaith yng Ngheredigion wedi rhybuddio y byddai torri rhagor o swyddi yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ‘ergyd i’r Gymraeg’ yn y sir. Ers dros ddegawd, gwnaed toriadau mewn termau real i grant y Llyfrgell Genedlaethol a leolir yn Aberystwyth. Y llynedd, argymhellodd adroddiad annibynnol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, bod angen cynnydd i grant y Llyfrgell er mwyn cynnal eu gwasanaethau a swyddi. 
29/01/2021 - 12:28
Rydym wedi beirniadu cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw (29 Ionawr) parthed yr argyfwng tai gan nad yw'r datganiad yn mynd yn ddigon pell.   Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Julie James, y bydd y Llywodraeth yn cynnal rhagor o waith ymchwil ar y mater ac “yn ystyried potensial cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau.” Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol: