Archif Newyddion

01/08/2020 - 13:16
Dylai sefydlu corff newydd i greu cynnwys Cymraeg ar-lein fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr. Mewn papur manwl am eu cynigion i sefydlu ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ sydd wedi ei lansio heddiw fel rhan o’r Eisteddfod AmGen, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau dros sefydlu corff a fyddai â’r “prif nod i gynyddu cyfleoedd i weld, clywed, creu a defnyddio'r Gymraeg ... ar draws llwyfannau ar-lein ac yn ddigidol”. 
08/07/2020 - 08:13
Please scroll down for English   Dros 400 o addysgwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ollwng gorfodaeth o Saesneg o Fil y Cwricwlwm   Y llythyr agored: https://drive.google.com/uc?export=download&id=1AsatEq5qDtij0IZ2d1AV91Gz7-oHXcS7  
30/06/2020 - 09:33
Mae ymhell dros gant o addysgwyr o Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi wedi llofnodi llythyr, a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith, at y Gweinidog Addysg yn galw arni i dynnu allan o Fil y Cwricwlwm unrhyw gyfeiriad at orfodi ysgolion i ddysgu Saesneg i blant o 4 oed. Mae'r 115 o addysgwyr yn cynnwys athrawon, swyddogion addysg a llywodraethwyr presennol ac eraill sydd wedi gwasanaethu dros y 30 mlynedd diwethaf.
03/06/2020 - 09:57
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb yn chwyrn ar ôl cael deall bod drafft diweddaraf Bil y Cwricwlwm – sydd i’w gyhoeddi’n fuan – yn nodi Saesneg fel rhan orfodol o’r cwricwlwm ac yn peryglu dulliau trochi, er gwaethaf addewidion i’r gwrthwyneb gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, y llynedd.
01/06/2020 - 15:59
Am y tro cyntaf, daeth mudiadau ymgyrchu iaith o’r gwledydd Celtaidd at ei gilydd er mwyn galw am weithredu cadarn i sicrhau dyfodol ffyniannus i’n cymunedau.
07/05/2020 - 16:26
Mae datganoli darlledu yn un o brif ymgyrchoedd Grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas, ac mae'r sefyllfa bresennol wedi amlygu – yn fwy nag erioed – bwysigrwydd yr ymgyrch hwn. Mae'n hanfodol fod gennym y grym yma yng Nghymru i benderfynu dros ddyfodol ein sianel Gymraeg a'n gorsafoedd radio lleol. Credwn y dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i Senedd Cymru, gan gynnwys y grym o reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu.
03/04/2020 - 09:58
Yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, mae staff y Gymdeithas yn gweithio o adref. Mae gwaith y Gymdeithas yn mynd yn ei flaen wrth gwrs ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost neu gwblhau'r ffurflen ar waelod y dudalen hon. Siôn Trewyn (Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol): cyfathrebu@cymdeithas.cymru
24/03/2020 - 14:56
Nodir yma gwrthwynebiad swyddogol Cymdeithas yr Iaith i hysbysiad statudol Cyngor Caerdydd o'r bwriad i sefydlu darpariaeth ysgol gynradd i wasanaethu cyfnodau cynnar datblygiad Plasdŵr.