Rydyn ni'n chwilio am ddau gynllun newydd - un ar gyfer crys-T i oedolion ac un ar gyfer crys-T plant
Rydyn ni'n edrych am ddelwedd neu gelf weledol all ddangos i'r byd fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn hawlio lle i'n hiaith a'n treftadaeth ers trigain mlynedd. Rydym yn edrych am gynlluniau trawiadol a chyfoes, ond sy'n adlewyrchu chwe degawd o ymgyrchu, aberthu a brwydr y chwyldro yng Nghymru.
Canllawiau’r gystadleuaeth:
Dylech osgoi defnyddio '60' fel nad yw'r crys-t yn dyddio