Archif Newyddion

25/08/2021 - 17:52
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o “fychanu cymunedau Cymru” yn eu dogfen ymgynghorol newydd ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Mae ymgynghoriad y Llywodraeth, a gyhoeddwyd heddiw (25 Awst), yn “ystyried newidiadau posibl i drethi lleol er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar yn eu hardaloedd”. 
16/08/2021 - 18:30
"Mae ein cymunedau Cymraeg mewn peryg oherwydd fod y farchnad dai agored yn atal pobl ifainc rhag cael cartrefi yn eu cymunedau." meddai Osian Jones, oedd yn un o g
22/07/2021 - 10:25
Mae Grwp Ymgyrch Addysg yn datgan ei wrthwynebiad i'r Rhybudd Statudol a gyhoeddwyd gan Gyngor Gwynedd i gau Ysgol Abersoch.
13/07/2021 - 17:09
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am “Ddeddf Addysg Gymraeg radical” yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod wedi methu eu targedau addysg allweddol er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr.   
09/07/2021 - 09:22
  Mae disgwyl i gannoedd o ymgyrchwyr brotestio ar argae Tryweryn ddydd yfory (Dydd Sadwrn, y 10fed o Orffennaf), lle fydden ni'n ffurfio rhes ar hyd yr argae yn symbol o'n hymrwymiad i sefyll yn erbyn grymoedd y farchnad dai a pholisïau’r Llywodraeth sy'n bygwth chwalfa cymunedau Cymru a’r Gymraeg.
01/07/2021 - 13:35
Bydd ymgyrchwyr iaith yn gorymdeithio am dridiau i alw am hawliau i bobl allu byw yn eu cymunedau lleol. Yr wythnos nesaf, bydd aelodau o Ranbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith yn dechrau taith gerdded o dros 30 milltir o Lanfihangel y Pennant i Gapel Celyn dros gyfnod o dridiau. Ar hyd y daith, fe fydd yr ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Eiddo er mwyn gwneud tai yn fforddiadwy i bobl ar gyflogau lleol allu eu rhentu a’u prynu.
18/06/2021 - 15:47
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu cynnig a basiodd Cyngor Sir Ceredigion ddoe ar yr argyfwng tai yn y sir.   Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (17 Mehefin), pleidleisiodd Cyngor Sir Ceredigion yn unfrydol o blaid cynnig gan y Cynghorydd Mark Strong sy’n ymrwymo’r Cyngor i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau i daclo’r argyfwng tai:
08/06/2021 - 10:43
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "ddi-fflach" ac yn "rhagweladwy" yn eu cynnig a fydd gerbron y Cabinet wythnos i heddiw (Dydd Mawrth 15/6) i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn dilyn ymgynghoriad yn Ionawr a Chwefror eleni. Os caiff y cynnig ei basio, bydd cyfle i wrthwynebu'n ffurfiol Hysbysiad Statudol i gau'r ysgol ond, os bydd y Cyngor unwaith eto'n peidio â newid ei feddwl, gallai'r ysgol gau ar ddiwedd 2021, gan drosgwlyddo'r plant i Ysgol Sarn Bach.
07/06/2021 - 17:28
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, i gyflwyno “pecyn o gynigion” i daclo’r argyfwng tai ond yn pwylseisio y dylai’r pecyn hwnnw fod yn “radical a chynhwysfawr”.