Archif Newyddion

14/06/2022 - 11:01
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth o'r bwriad i greu panel panel arbenigol newydd a fydd yn dechrau ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru. Wrth groesawu dywedodd Mirian Owen, is-gadeirydd grŵp darlledu Cymdeithas yr Iaith:
08/06/2022 - 22:43
Mae gormod o alw am ymchwil pellach yn hytrach na gweithredu yn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi yn ôl Cymdeithas yr Iaith. Cynhaliwyd yr ymchwil yn sgil adroddiad y Dr Simon Brooks, 'Ail gartrefi – Datblygu polisïau newydd yng Nghymru'. Ers cyhoeddi adroddiad Dr Simon Brooks mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun o fesurau peilot yn Nwyfor a dau ymgynghoriad.
02/06/2022 - 19:01
Wedi i bobl Ynys Môn gael eu hatal rhag prynu tai newydd ar yr ynys fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gynnal piced i fynnu Deddf Eiddo fel nad oes rhywbeth fel hyn yn digwydd eto. Mae ystâd o 16 o dai ym Mrynteg, ger Benllech, yn cael eu hadeiladu, ag amod cynllunio arnynt sy'n golygu bod yn rhaid eu gwerthu fel cartrefi gwyliau, nid fel prif gartref.
27/05/2022 - 10:51
Wrth ymateb i gyhoeddiad cynllun 10 mlynedd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i gynyddu nifer yr athrawon sy’n siarad Cymraeg dywedodd Ifan Jones, Is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: "Y brif her wrth sicrhau bod pob disgybl yn derbyn addysg Gymraeg yw cael digon o staff sy'n gallu gweithio trwy'r Gymraeg. Felly yn sicr mae angen cynllun i fynd i'r afael â hynny ond dydy'r hyn mae'r Llywodraeth wedi ei gyhoeddi ddim yn gwneud digon, nac ar ddigon o frys.
11/05/2022 - 11:31
Taflwyd achos Toni Schiavone allan o'r llys heddiw am nad oedd cynrychiolydd o One Parking Solutions yn bresennol. Roedd Toni Schiavone wedi gwrthod talu dirwy barcio gan fod yr hysbysiad cosb yn uniaith Saesneg, er iddo ofyn droeon amdano yn Gymraeg. Oherwydd iddo ofyn bod pob gohebiaeth gan y llys yn Gymraeg bu'n rhaid i One Parking Solutions gyfieithu'r holl wybodaeth ar gyfer y llys eu hunain, gan gynnwys copi o'r ddirwy. Yn dilyn yr achos dywedodd Toni Schiavone:
29/04/2022 - 17:06
Wythnos cyn yr etholiadau lleol, mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cyhoeddi datganiad yn galw ar ymgeiswyr am seddi ar y Cyngor Sir i roi gobaith newydd i gymunedau gwledig Cymraeg trwy roi sicrwydd am ddyfodol eu hysgolion pentre. Rai misoedd yn ôl penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin beidio â chau ysgolion pentrefi Mynydd-y-Garreg a Blaenau, ond yn hytrach i adolygu'r "Cynllun Moderneiddio Addysg", a oedd wedi bygwth dyfodol degau o ysgolion pentrefi'r sir, yn ei gyfanrwydd.
14/03/2022 - 18:10
Wrth i'r Llywodraeth ddatblygu'r cynllun gwaith newydd ar gyfer Mwy na geiriau dywed Cymdeithas yr Iaith ei bod yn ymwrthod â'r bwriad i 'gyflwyno'n raddol lefel "cwrteisi" sylfaenol'.
08/03/2022 - 17:34
Yn rali Ni Isio Byw yng Nghaerdydd heddiw bydd Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn defnyddio'r cyfle i ddweud bod angen i ni uno yn erbyn ymosodiadau Llywodraeth Prydain ac eraill ar ein hawliau, a chydsefyll fel y mudiad ffeministaidd, y mudiad iaith a phawb arall sydd eisiau creu byd heb drais a gormes. Meddai: Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad di-drais ers ein sefydlu 60 mlynedd yn ôl, ac rydyn ni’n golygu ‘di-drais’ yn ystyr ehangaf y gair.
01/03/2022 - 12:12
Wedi i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, gyhoeddi prosiectau fydd yn gwneud cais am gyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith  wedi gofyn "ble mae'r strategaeth?" Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp ddysg Cymdeithas yr Iaith:
28/02/2022 - 15:53
Rydyn ni'n chwilio am ddau gynllun newydd - un ar gyfer crys-T i oedolion ac un ar gyfer crys-T plant Rydyn ni'n edrych am ddelwedd neu gelf weledol all ddangos i'r byd fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn hawlio lle i'n hiaith a'n treftadaeth ers trigain mlynedd. Rydym yn edrych am gynlluniau trawiadol a chyfoes, ond sy'n adlewyrchu chwe degawd o ymgyrchu, aberthu a brwydr y chwyldro yng Nghymru. Canllawiau’r gystadleuaeth: Dylech osgoi defnyddio '60' fel nad yw'r crys-t yn dyddio