Archif Newyddion

17/12/2022 - 17:32
Mewn rali yn Llanrwst heddiw dywedodd Cymdeithas yr Iaith mai ymgyrchu llawr gwlad sydd wedi arwain at fesurau i fynd i'r afael ag effaith ail dai a thai gwyliau, a bod angen pwyso nawr am fesurau i ddatrys problemau ehangach. Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Ymgyrchwyr sydd wedi sicrhau bod grymoedd newydd gan gynghorau i leihau effaith ail dai, ond mae'r broblem tai yn ehangach nag ail dai a thai gwyliau.
07/12/2022 - 18:33
Rydyn ni'n feiriniadol o sylwadau'r Prif Weinidog yn y Siambr yn hallt, ar ôl iddo ddweud nad oedd am weld pob plentyn yng Nghymru yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol, gan awgrymu ei fod am gynnal y gyfundrefn bresennol lle mae mwyafrif pobl ifanc Cymru yn gadael yr ysgol heb fod yn hyderus yn y Gymraeg.
06/12/2022 - 21:28
Cododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith bosteri a chwistrellwyd y neges "Llywodraeth Cymru: Gweithredwch" ar adeiladau'r Llywodraeth yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno heno, 06/12/2022. Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas:
06/12/2022 - 11:58
Mae gosod nod o Addysg Gymraeg i Bawb yn hanfodol er mwyn atal dirywiad y Gymraeg. Mae cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 heddiw wedi dangos gostyngiad yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg. Meddai Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris:
01/12/2022 - 18:38
Mae ymateb y Gweinidog Newis Hinsawdd, Julie James, i argymhellion ymchwiliad i Asedau Cymunedol yn gymysg. Meddai Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
30/11/2022 - 18:07
Rydyn ni wedi galw ar y Prif Weinidog i sicrhau bod pob plentyn fydd yn cael addysg yng Nghymru yn y dyfodol yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg. Mae angen gosod y sylfaen nawr i ddechrau gweddnewid y gyfundrefn addysg, fel bod pob ysgol yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
28/11/2022 - 15:38
Mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri ar dai haf yn Rhosneigr ar Ynys Môn yn datgan "Nid yw Cymru ar Werth". 
22/11/2022 - 11:32
Rydyn ni'n croesawu cefnogaeth Undod, mudiad sosialaidd, gweriniaethol sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, i'r alwad ar Lywodraeth Cymru i osod nod bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
21/11/2022 - 15:29
Yn dilyn rhywfaint o ail-strwythuro, mae gan y Gymdeithas gyfle cyffrous i unigolyn gweithgar ymuno â’n tîm staff bach ond effeithiol. Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ar ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda flaengar ar gyfer y Gymraeg.
14/11/2022 - 11:18
Rydyn ni wedi beirniadu Cyngor Sir Wrecsam yn hallt ar ôl i dad aros tair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant, a hynny er gwaethaf sawl ymchwiliad i’r mater gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, gofynnodd Aled Powell i Gyngor Wrecsam am wersi nofio yn Gymraeg i’w blant yn 2019, ac mae’n dal i aros, heb sicrwydd pryd bydd gwersi nofio ar gael i blant yr ardal yn Gymraeg. Meddai Aled Powell, sy’n aelod o Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith: