Archif Newyddion

24/03/2023 - 14:04
Rydyn ni wedi cyhoeddi ein cynigion ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i Bawb heddiw - ar yr un diwrnod ag y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Phapur Gwyn ar y Bil Addysg Gymraeg arfaethedig.  Mae'r Ddeddf Addysg i'w gweld yma Fe wnaethon ni lansio ein Deddf Addysg Gymraeg ddrafft yn haf 2022, ac yn dilyn cyfnod o ymgynghori a thrafod mae’r ddeddf derfynol wedi ei chyhoeddi.
13/03/2023 - 14:47
  Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg wedi iddi ddod i’r amlwg y bydd yn rhaid i famau yn y gogledd deithio i Loegr i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
07/03/2023 - 17:45
Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu bod Cyngor Môn yn gweithredu’n groes i’r amcan o wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor.
28/02/2023 - 19:21
Mewn datganiad ar y cyd ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi mae Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chylch yr Iaith wedi mynegi pryder ynglŷn â bwriadau Adran Addysg Gwynedd mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg.
14/02/2023 - 13:25
Wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin adolygu ei Gynllun Moderneiddio Addysg mae Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth wedi galw ar y cyngor i ddefnyddio'r cyfle i greu cynllun blaengar sy’n cynnwys pawb ac yn cynnig atebion newydd. Cyn etholiadau awdurdodau lleol llynedd penderfynodd y cyngor oedi ei gynlluniau i ymgynghori ar gau ysgolion Blaenau a Mynydd-y-garreg er mwyn adolygu'r Cynllun Moderneiddio Addysg. Dydy dyfodol yr un o'r ysgolion hynny, na sawl un arall yn y sir, ddim yn sicr er hynny. Yn ôl y llythyr:
04/02/2023 - 16:28
Daeth nifer o'r protestwyr gwreiddiol i daith gerdded i nodi chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith. Dechreuodd y daith ar Bont Trefechan cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig yn hanes y mudiad yn Aberystwyth. Wrth siarad yn ystod y daith gerdded dywedodd Aled Gwyn: Roedd y brotest a'r cyfnod yn gyffrous, ac fe wnaeth y cyhoeddusrwydd sylw a'r sylw arwain at ddegawdau o ymgyrchu sy'n dal i fynd ymlaen.
01/02/2023 - 16:51
I nodi chwe deg mlwyddiant ein protest gyntaf byddwn ni'n cynnal taith gerdded o leoliadau nodedig yn ein hanes yn Aberystwyth ddydd Sadwrn yma. Cynhaliwyd y brotest gyntaf yn enw’r mudiad ar 2 Chwefror, 1963. Bydd y daith yn dechrau wrth Bont Trefechan, lle bydd Aled Gwyn, un o brotestwyr gwreiddiol y bont yn dweud gair.
31/01/2023 - 22:56
Rydyn ni'n cefnogi'r rhai sy'n streicio, gan ddweud mai penderfyniad Llywodraethau i beidio buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi arwain at ddirywiad amodau gwaith a chyflog mewn termau real. Mae'r streiciau yn ymwneud ag amodau gwaith yn ogystal â chynnydd mewn cyflogaeth, ac yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae angenbuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cynnal amodau gwaith digonol. Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
30/01/2023 - 19:10
Byddwn ni'n cynnal rali fawr "Nid yw Cymru ar Werth" ar y Maes yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun 8ed o Fai - sy'n Ŵyl Banc penwythnos coroni Charles Windsor yn frenin yn Llundain.
25/01/2023 - 17:07
Mae rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod cau ffatri Two Sisters yn Llangefni yn ergyd greulon i unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan, yn Llangefni a thu hwnt.