O flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth nesaf (28/9), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Cabinet Cyngor Sir Gwynedd i beidio â chefnu ar y gymuned leol yn Abersoch trwy gau ysgol y pentref. Mewn llythyr at bob aelod o'r Cabinet, dywed Ffred Ffransis ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith mai'r "ysgol yw ei gobaith at y dyfodol fel sefydliad cwbl Gymraeg ac yn seiliedig ar blant, ac yn ddatganiad fod y Gymraeg yn perthyn i bob dinesydd y dyfodol yn Abersoch, beth bynnag fo eu cefndir."