Archif Newyddion

03/02/2021 - 18:53
Ar gyfer Wythnos Prentisiaethau, galwn ar gyrff cyhoeddus a chyflogwyr ledled Cymru i fuddsoddi mewn prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.    Dywedodd cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone:  
02/02/2021 - 22:20
  Mae ymgyrchwyr iaith yng Ngheredigion wedi rhybuddio y byddai torri rhagor o swyddi yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ‘ergyd i’r Gymraeg’ yn y sir. Ers dros ddegawd, gwnaed toriadau mewn termau real i grant y Llyfrgell Genedlaethol a leolir yn Aberystwyth. Y llynedd, argymhellodd adroddiad annibynnol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, bod angen cynnydd i grant y Llyfrgell er mwyn cynnal eu gwasanaethau a swyddi. 
29/01/2021 - 12:28
Rydym wedi beirniadu cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw (29 Ionawr) parthed yr argyfwng tai gan nad yw'r datganiad yn mynd yn ddigon pell.   Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Julie James, y bydd y Llywodraeth yn cynnal rhagor o waith ymchwil ar y mater ac “yn ystyried potensial cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau.” Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol:
22/01/2021 - 17:52
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu bwriad Cyngor Ceredigion i weithredu ar yr argyfwng tai yn y sir.  Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (21ain o Ionawr), gofynnodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, i bwyllgor craffu drafod cynnig ar y mater yn ei gyfarfod nesaf ac i adrodd yn ôl cyn cyfarfod nesaf y cabinet ym mis Chwefror.
21/01/2021 - 18:07
Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu’n hallt benderfyniad is-ganghellor Prifysgol Bangor i “osgoi sgriwtini” ar fater dyfodol Canolfan Bedwyr drwy ganslo cyfarfodydd gyda Chymdeithas yr Iaith deirgwaith yn olynol.   
13/01/2021 - 15:26
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dilyn ôl troed awdurdodau lleol eraill heddiw (Dydd Mercher 13/01) wrth dderbyn cynnig yn galw ar y Llywodraeth am ragor o rymoedd i reoli ail gartrefi. Derbyniwyd y cynnig sy'n gofyn i'r Llywodraeth ddeddfu i sicrhau bod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn newid tŷ yn ail-gartref neu lety gwyliau ac atal perchnogion rhag cofrestru ail dŷ yn fusnesau er mwyn osgoi trethi; ac i alluogi awdurdodau lleol i osod trothwy ar y nifer o ail gartrefi ym mhob ward.
11/01/2021 - 12:48
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn ymgynghoriad statudol chwe wythnos ar gynnig i gau Ysgol gyfrwng Cymraeg Mynydd-y-Garreg ger Cydweli tra bo'r ysgol ei hun ar gau oherwydd pandemig. Ar yr un pryd bydd gofyn i'r Cyngor Sir dderbyn drafft ddiweddaraf y Cynllun Datblygu Lleol (hyd at 2033) er bod swyddogion yn cyfaddef y bydd y cynllun yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod hon yn "wythnos dywyll i'r Gymraeg yn Sir Gâr".
04/01/2021 - 17:02
  Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ollwng cynlluniau arfaethedig i drosglwyddo nifer o bwerau allweddol o gynghorau sir i bedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig newydd gan y byddent yn “tanseilio democratiaeth leol ac yn gwanhau polisi iaith ar lefel sirol”.
21/12/2020 - 12:37
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan fod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi "achosi poen meddwl di-angen" i lywodraethwyr, rhieni a'r gymuned leol ym Mynydd-y-Garreg trwy awdurdodi Ymgynghoriad Statudol ar gynnig i gau ysgol y pentref, fel rhan o gynllun ehangach i geisio cyllid am adeilad newydd i Ysgol Gymraeg Gwenllian yng Nghydweli. Mae'r Gymdeithas yn dadlau y buasai wedi bod yn gynt i wneud cais yn syth am adeilad newydd i Ysgol Gwenllian, heb gyplysu hyn ag ymdrech i gau ysgol