Archif Newyddion

27/11/2018 - 13:16
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i benodiad Aled Roberts yn Gomisiynydd newydd y Gymraeg, gan ddweud ei bod yn hollbwysig bod y rôl yn parhau.   Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:  
26/11/2018 - 11:42
Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar wyth deg o arwyddon ffyrdd Cyngor Wrecsam dros y penwythnos.  Mae cannoedd o arwyddion ‘Ildiwch’ yn sefyll ar hyd a lled y sir wedi eu gosod yn uniaith Saesneg, ‘Give Way’, ac felly hefyd yn anghyfreithlon, yn ôl cadeirydd Cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith, Aled Powell. 
22/11/2018 - 13:18
Wrth annerch protestwyr dros ysgolion gwledig Cymraeg wrth fynedfa pencadlys Cyngor Ynys Môn yr wythnos hon, datgelodd Ffred Ffransis (ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith) fod arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi cytuno i gyfarfod â dirprwyaeth o'r Gymdeithas i drafod strategaeth y Cyngor ar gyfer ysgolion gwledig. Cynhaliwyd y brotest tra bod y senedd yng Nghaerdydd yn cynnal dadl ar ddeiseb sy'n galw am sicrhau fod polisi newydd y Llywodraeth o ragdyb o blaid ysgolion gwledig yn cael ei weithredu trwy Gymru. Wrth gyhoeddi hyn, dywedodd Mr Ffransis:
08/11/2018 - 16:04
Heddiw, wrth agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin cyhoeddodd Jeremy Wright, Ysgrifennydd Gwladol San Steffan dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel.
05/11/2018 - 16:23
Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael ei ddyfarnu i dalu £220 mewn gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw fel rhan o ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.
31/10/2018 - 12:14
Mae rhieni wedi apelio i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn achub Ysgol Bodffordd yn Ynys Môn, sydd yn rhif un ar restr y Llywodraeth o ysgolion gwledig Cymru. Heddiw (y 30ain o Hydref) yw diwrnod olaf i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol i gau’r ysgol.
30/10/2018 - 10:23
Mae mudiad iaith wedi rhybuddio y gallai newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i daliadau ffermio ddinistrio'r Gymraeg ar lawr gwlad.  
12/10/2018 - 14:28
  Cynghorau i sefydlu banciau lleol yn un o’r atebion mewn dogfen economaidd Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi dwsin o argymhellion i gryfhau’r economi ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, 13eg Hydref) mewn ymdrech i leihau’r allfudo o Gymru sy’n 'argyfwng i'r iaith’ yn ôl y Gymdeithas. [Cliciwch yma i agor y ddogfen lawn]