Archif Newyddion

12/08/2018 - 12:37
Cyflwynodd rhieni ysgol wledig yn Ynys Môn ar y cyd gyda Chymdeithas yr Iaith ar risiau'r senedd yng Nghaerdydd ddeiseb am ddyfodol ysgolion gwledig Cymru.  
10/08/2018 - 17:38
Mae ymgyrchwyr wedi protestio ar stondin Llywodraeth Llafur Cymru yn erbyn cynlluniau a fyddai, yn eu barn nhw, yn gwanhau hawliau iaith yn yr Eisteddfod heddiw (dydd Gwener, 10fed Awst).  
09/08/2018 - 21:38
Bydd ymgyrchwyr yn pwyso yn yr Eisteddfod heddiw (2pm, dydd Iau, 7fed Awst) ar i banel sy'n adolygu'r ddeddfwriaeth addysg Gymraeg argymell mabwysiadu yr un statud addysg ag sydd gan Gatalwnia er mwyn symud at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb dros gyfnod o amser. 
07/08/2018 - 18:36
Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod heddiw, galwodd Cymdeithas yr Iaith am wersi Cymraeg am ddim i fudwyr, gan honni bod polisi presennol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn 'rhan o ragfarn ehangach yn erbyn mudwyr'. 
06/08/2018 - 09:36
Mae ymgyrchwyr wedi cychwyn her gyfreithiol yn erbyn canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, y maen nhw'n honni sy'n atal cynghorwyr rhag ystyried effa
31/07/2018 - 10:11
Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi tarfu ar agoriad swyddogol siop newydd Iceland yn y Rhyl heddiw (dydd Mawrth, 31ain Gorffennaf) gan gwyno am y diffyg darpariaeth Gymraeg.   Ar fore agoriad swyddogol y siop newydd, mae pymtheg o aelodau Cymdeithas yr Iaith ynghyd â'r Cynghorydd lleol Arwel Roberts wedi gwrthdystio tu allan a thu fewn i'r siop gan gwyno i reolwyr am y diffyg arwyddion Cymraeg. 
17/07/2018 - 16:33
  Dim rhagor o hawliau iaith tan 2021 o achos y Bil, honna Cymdeithas yr Iaith
16/07/2018 - 16:35
Mae mudiad iaith wedi galw am her gyfreithiol i gynnig Cyngor Ynys Môn i gau Ysgol Talwrn.       Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith