Archif Newyddion

08/03/2019 - 12:05
Mae mudiad iaith wedi ymateb i drafodaeth cynghorwyr Gwynedd am y toriadau arfaethedig i ganolfannau trochi iaith y sir. Meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
07/03/2019 - 14:23
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd heddiw  mewn ymgais i atal toriadau i ganolfannau trochi iaith y sir.   Mae’r canolfannau yn trochi plant sy’n dod o’r tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion. Mae’r cyngor yn cynnig gwneud toriadau o £96,000 i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019 ymlaen.  
05/03/2019 - 14:54
Mae mudiad iaith wedi mynegi pryder nad yw ymgyrch newydd i gyflogi ugain mil yn fwy o ofalwyr yn sôn am yr angen i recriwtio siaradwyr Cymraeg. Dywedodd Gwerfyl Wyn Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd, Cymdeithas yr Iaith:
28/02/2019 - 21:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ar y cyd gyda Chlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn lansiad ymgyrch newydd i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweithgareddau hamdden yn Sir Gâr a Cheredigion.
21/02/2019 - 12:59
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Sir Gâr ar eu penderfyniad y dylai eu Prif Weithredwr nesaf fod yn ddwyieithog.    Dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith:  
20/02/2019 - 12:04
Mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder am gynlluniau Prifysgol Caerdydd i uno Ysgol y Gymraeg gydag adrannau eraill sy’n dysgu ieithoedd. Mewn papur at staff yn esbonio cynlluniau arfaethedig i dorri 380 o swyddi, dywed y Brifysgol:
13/02/2019 - 17:11
Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ‘geisio tanseilio annibyniaeth y Comisiynydd drwy’r drws cefn’ gan ‘lwgrwobrwyo'r Comisiynydd’ i newid ei strwythurau a’i gwaith, yn sgil cyhoeddi papur polisi newydd Gweinidog y Gymraeg. Mewn papur a gyflwynwyd yn hwyr ar gyfer cyfarfod pwyllgor diwylliant y Senedd heddiw (dydd Mercher 13eg Chwefror), dywed Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:
08/02/2019 - 10:03
Mae mudiad iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu eu cwmni ynni adnewyddol newydd yn Ynys Môn, yn dilyn penderfyniad cwmni Hitachi, perchennog Horizon, i rewi eu cynlluniau ar gyfer codi atomfa yn yr Wylfa.