Gorchymyn Iaith - Cyfle i Fynnu'n Hawliau!

leanne-cy-caerdydd.jpgYn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru. Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad, sef:Yr Institiwt, Caernarfon (map) am 7.30pm ar yr 12fed o Fawrth gyda Dafydd Iwan (Llywydd Plaid Cymru), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith) Aran Jones (Cymuned). Cadeirydd: Osian Jones.Canolfan y Morlan, Aberystwyth (map) am 7.30pm ar y 12fed o Fawrth gyda Rebecca Williams (UCAC) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith). Cadeirydd: Dafydd Morgan Lewis.Y Duke of Clarence, Caerdydd (map) am 7.30pm ar yr 16eg o Fawrth gyda Leanne Wood (Aelod o Bwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith), Menna Machreth (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith), Aled Elwyn (Strata Matrix), Yr Athro Colin H Williams. Cadeirydd: Sioned Haf.Y Boar's Head, Caerfyrddin (map) am 7pm ar yr 20fed o Fawrth gydag Adam Price (Aelod Seneddol), Hywel Griffiths (Cymdeithas yr Iaith), Cynrychiolydd o Fentrau Iaith Cymru. Cadeirydd: Bethan Williams.Pwrpas y fforymau yw i roi cyfle i'r gynulleidfa leisio'u barn a chael bod yn rhan o broses drafod y Gorchymyn iaith, felly estynnwn wahoddiad i bob un sydd eisiau'r cyfle i fynnu'i hawl i'r Gymraeg. Bydd adroddiadau o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at y Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad sy'n craffu'r Gorchymyn Iaith.

taith_LCO1.jpg