![](https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/imagecache/newyddion_prif/Lansiad%20Bil%20Eiddo.jpg)
‘Gwrth-droi’r lli yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau’, dyna ddisgrifiad Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith o fwriad y Mesur Cynllunio mae’r mudiad yn ei lansio yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw.
Bydd Mesur Eiddo a Chynllunio, a ddrafftiwyd gan y grŵp pwyso, yn amlinellu pecyn o newidiadau er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg yn ogystal ag ehangu ei defnydd ym mhob rhan o Gymru.