Powys

Croesawu Penderfyniad Cyngor Sir Powys ar Ddyfodol Ysgolion Bach

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Powys ar ddyfodol nifer o ysgolion gwledig yn y Sir. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:"Yr ydym yn cydymdeimlo yn arw â rhieni a phlant yn ysgolion Thomas Stephens ym Mhontneddfechan ac Ysgol Gynradd Llangurig sy'n wynebu cael eu cau.

A fydd Cyngor Sir Gâr yn cau'r drws ar faes Sioe Llanelwedd?

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Am 11.00am ddydd Mawrth (19/7), bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal piced o bafiliwn Cyngor Sir Caerfyrddin ar faes y Sioe Frenhinol Gymreig yn Llanelwedd. Byddwn yn tynnu sylw at yr eironi mai Sir Caerfyrddin sy'n noddi'r sioe eleni sy'n benllanw ymdrechion ei cymunedau gwledig, ac eto fod y Cyngor Sir yn cesio cau degau o'u hysgolion pentrefol.

Targedu siopau Aberteifi, Trallwng ac Aberystwyth yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith

deddf_iaith_newydd.gifFel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc.