Cymunedau Cynaliadwy

Ymgynghoriad - y Bil Datblygu Cynaliadwy

Gallwch ddarllen ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad blaenorol y Bil Datblygu Cynaliadwy yn llawn trwy bwyso ar y ddolen isod

Ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer y Bil Datblygu Cynaliadwy - Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (PDF)

Lansiad Taith: Angen Cynghrair Cymunedau

Lansiodd Dafydd Iwan daith hanesyddol ymgyrchwyr iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Cymorth cyntaf i'n cymunedau Cymraeg? Cymdeithas ar daith

Datgelwyd lluniau "ambiwlans" arbennig heddiw a fydd yn cludo ymgyrchwyr iaith o gwmpas y wlad fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd taith "Tynged yr Iaith", a enwyd ar ôl anerchiad gan Saunders Lewis ac a sbardunodd sefydlu'r mudiad iaith, yn dechrau ar y daith o faes Eisteddfod yr Urdd ac yn trafod yr heriau i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol.

Bil Cynllunio - cyfle i greu cymunedau cynaliadwy

Bil Cynllunio - cyfle i greu cymunedau cynaliadwy

Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Rali Wylfa B: Brwydr teulu yn frwydr dros gymunedau Cymraeg

Mae'r frwydr dros ddiogelu tir teulu o Ynys Môn yn ficrocosm o’r frwydr dros gymunedau Cymraeg, dyna fydd neges rali yn erbyn datblygu atomfa niwclear newydd yn y sir heddiw.

Census results will highlight the crisis facing our Welsh communities

In a message to members at the beginning of Cymdeithas yr Iaith's half centenary year, the Society's Chair Bethan Williams has warned that the Census results - to be released in 2012 - will highlight the crisis facing our Welsh-speaking communities.

Ymgynghoriad TAN 20 - ein hymateb

Cymunedau Cynaliadwy

Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy

Mae cymunedau a fu’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gymraeg wedi bod o dan warchae economaidd a chymdeithasol ers degawdau.  Mae mewnfudo, tueddiadau’r farchnad dai, a datblygiadau anaddas wedi sicrhau bod y farchnad dai yn aml allan o gyrraedd pobl leol.

Diwallu anghenion tai pobl Cymru
Cynaladwyedd cymdeithasol ac economaidd i gymunedau Cymru trwy sicrhau cartref am bris teg
Cynaladwyedd amgylcheddol

Dogfennau