
Cyflwynwyd galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai” Cymdeithas yr Iaith i swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw (29 Mai) wedi diwedd digwyddiad dathlu deng mlwyddiant y Siarter Iaith yn stondin y Llywodraeth.
Mae gwaith a llwyddiannau’r Siarter i’w canmol yn ôl y Gymdeithas, ond mae argyfwng tai a dinistr y farchnad agored yn bygwth “tanseilio” y gwaith da hynny, yn hytrach nag adeiladu arno.