Ar y ffordd i'r Rali yng Nghaerdydd, beth am dorri'r siwrnai ym Merthyr Tydful ar gyfer Noson Werin arbennig yn Theatr Soar am 7.00pm, nos Wener, 12 Tachwedd.
Mae'r noson dan ofal Jamie Bevan a Phyl Griffiths. Dewch ag offeryn i ymuno wrth chwarae alawon gwerin cyfarwydd. Bydd taflenni cerddoriaeth a geiriau ar gael i chi ddilyn pob alaw. Mae croeso i deuluoedd, a bydd coffi, bwyd a bar ar gael.