Cymunedau Cynaliadwy

Diogelwn

Cynllun i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir

Cynllun newydd yw DIOGELWN sy'n bartneriaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a phobl Cymru.

Rydym yn gweld enwau Cymraeg ar dai a thir fel eiddo cymunedol ac fel rhan annatod o gyd-dreftadaeth y Cymry y dylid eu diogelu er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.

Cynllun i annog pobl yng Nghymru sy'n bwriadu gwerthu tŷ/tir ag enw Cymraeg i gymryd camau cyfreithiol i ddiogelu'r enw hwnnw
Cynllun i annog pobl yng Nghymru sy'n berchen ar dŷ/tir ag enw Cymraeg ond nad yw'n bwriadu'i werthu eto i gymryd camau i ddiogelu'r enw ar gyfer y dyfodol

Dogfennau

Canmol Cyngor Ceredigion ar fater ail gartrefi

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu bwriad Cyngor Ceredigion i weithredu ar yr argyfwng tai yn y sir. 

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (21ain o Ionawr), gofynnodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, i bwyllgor craffu drafod cynnig ar y mater yn ei gyfarfod nesaf ac i adrodd yn ôl cyn cyfarfod nesaf y cabinet ym mis Chwefror.

Croesawu cynnig am ail gartrefi

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dilyn ôl troed awdurdodau lleol eraill heddiw (Dydd Mercher 13/01) wrth dderbyn cynnig yn galw ar y Llywodraeth am ragor o rymoedd i reoli ail gartrefi.

Derbyniwyd y cynnig sy'n gofyn i'r Llywodraeth ddeddfu i sicrhau bod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn newid tŷ yn ail-gartref neu lety gwyliau ac atal perchnogion rhag cofrestru ail dŷ yn fusnesau er mwyn osgoi trethi; ac i alluogi awdurdodau lleol i osod trothwy ar y nifer o ail gartrefi ym mhob ward.

WYTHNOS DYWYLL I'R GYMRAEG YN SIR GÂR

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn ymgynghoriad statudol chwe wythnos ar gynnig i gau Ysgol gyfrwng Cymraeg Mynydd-y-Garreg ger Cydweli tra bo'r ysgol ei hun ar gau oherwydd pandemig.

Ar yr un pryd bydd gofyn i'r Cyngor Sir dderbyn drafft ddiweddaraf y Cynllun Datblygu Lleol (hyd at 2033) er bod swyddogion yn cyfaddef y bydd y cynllun yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod hon yn "wythnos dywyll i'r Gymraeg yn Sir Gâr".

Gwrthwynebu ‘ymosodiad’ ar ddemocratiaeth leol a pholisi iaith sirol

 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ollwng cynlluniau arfaethedig i drosglwyddo nifer o bwerau allweddol o gynghorau sir i bedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig newydd gan y byddent yn “tanseilio democratiaeth leol ac yn gwanhau polisi iaith ar lefel sirol”.

Argyfwng Tai: pwysau'n cynyddu ar y Llywodraeth i weithredu

Am 9am bore yfory (Dydd Mawrth 15ed o Ragfyr), bydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn trafod deiseb a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith sy'n galw ar y Llywodraeth i roi i Awdurdodau Lleol rymoedd i reoli'r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a thwristaidd. Rydym hefyd wedi penderfynu y byddwn yn trefnu y flwyddyn nesaf Rali Genedlaethol "Nid yw Cymru ar werth" ar hyd argae Tryweryn ger Y Bala lle boddwyd cymuned wledig Gymraeg Capel Celyn 55 mlynedd yn ôl.

 

Cyfarfod o'r Grwp Cymunedau Cynaliadwy

12/04/2025 - 14:30

Cynhelir cyfarfod o'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy am 2.30, pnawn Sadwrn, 12 Ebrill yn ystafell waelod Canolfan Merched y Wawr yn Aberystwyth. Bydd modd ymuno ar-lein hefyd

Mae croeso mawr i aelodau'r Gymdeithas ymuno â'r grŵp hwn felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, beth am ddod i un o'r cyfarfodydd i weld beth yw beth.

Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno cysylltwch.

Argyfwng tai Ceredigion

 
Daeth tua hanner cant o ymgyrchwyr ynghyd dros y penwythnos (ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd) i dynnu sylw at yr argyfwng tai sydd yn golygu na all pobl brynu cartrefi yn eu cymunedau ac sy’n cyfrannu at yr allfudiad difrifol o bobl ifanc o Geredigion. 
 

Rali aml-safle ‘Nid yw Cymru ar werth’