Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi, yn amodol ar reolau Cofid-19, y bydd dros 300 o gefnogwyr yn ffurfio rhes ar hyd Argae Tryweryn yn symbol o'u hymrwymiad i sefyll yn erbyn grymoedd y farchnad dai sy'n tanseilio cymunedau Cymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo cyn-berchnogion Cwellyn Dream, Ryan McLean a Katherine Jablonowski, o “elwa o’r argyfwng ail gartrefi.”
Ym mis Mehefin y llynedd, gwerthodd Ryan McLean a Katherine Jablonowski hen dyddyn Cwellyn yng Nghricieth drwy raffl gyhoeddus. £5 oedd pris un ticed, ac fe addawodd y ddau y byddai rhan o’r arian a godwyd yn cael ei roi i elusen Cymdeithas y Plant pe byddai’r raffl yn llwyddiant.
Mae Cymdeithas yr Iaith heddiw (22 Chwefror) yn lansio DIOGELWN, sef cynllun newydd i warchod enwau tai Cymraeg.
Fel rhan o’r cynllun, rydym wedi cyhoeddi dogfennau cyfreithiol y mae modd eu lawrlwytho a’u defnyddio gan unrhyw berson yng Nghymru sydd eisiau diogelu enw Cymraeg eu cartref, boed nhw’n bwriadu gwerthu eu tŷ neu beidio.
Your solicitor/conveyancer is welcome to use the document below (subject to the Terms of Use) if you own a house with a Welsh name (with or without land) in Wales, which you do not intend to sell at the moment, but you would like to protect its name for the future.
Your solicitor/conveyancer is welcome to use the clause below (subject to the Terms of Use) if you are selling undeveloped land with a Welsh name in Wales and would like to prevent the buyers and their successors in title from changing the name in the future.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu ymateb y Gweinidog Tai, Julie James, i gwestiynau yn y Senedd ddoe gan Weinidog Cysgodol Tai Plaid Cymru, Delyth Jewell, ynghylch yr argyfwng ail dai.
Rydym wedi beirniadu cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw (29 Ionawr) parthed yr argyfwng tai gan nad yw'r datganiad yn mynd yn ddigon pell.
Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Julie James, y bydd y Llywodraeth yn cynnal rhagor o waith ymchwil ar y mater ac “yn ystyried potensial cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau.”
Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol:
Mae croeso i’ch cyfreithiwr/trawsgludwr ddefnyddio'r ddogfen isod (yn amodol ar y Telerau Defnyddio) os ydych yn berchen ar dŷ ag enw Cymraeg (naill ai gyda thir neu heb dir) yng Nghymru nad ydych yn bwriadu ei werthu ar hyn o bryd ond eisiau gwarchod yr enw ar gyfer y dyfodol.