Er gwaetha'r tywydd fe wnaeth torf o dros 1500 o bobl yn rali Nid yw Cymru ar Werth heddiw ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau lleol a danfon neges glir at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod angen Deddf Eiddo sydd yn rheoleiddio'r farchnad.
Yn ôl Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
Ar gyfer pobl yr ardaloedd cyfagos, mae bysus yn rhedeg - yn groes i rai adroddiadau. E.e. mae gwasanaeth bob 30 munud o Fangor a 5 bws yn y bore o Stinog>Port>Penygroes.
Wythnos cyn rali fawr 'Nid yw Cymru ar Werth' yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 8 Mai, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri a pheintio sloganau yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.
Byddwn ni'n cynnal rali fawr "Nid yw Cymru ar Werth" ar y Maes yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun 8ed o Fai - sy'n Ŵyl Banc penwythnos coroni Charles Windsor yn frenin yn Llundain.
Mewn rali yn Llanrwst heddiw dywedodd Cymdeithas yr Iaith mai ymgyrchu llawr gwlad sydd wedi arwain at fesurau i fynd i'r afael ag effaith ail dai a thai gwyliau, a bod angen pwyso nawr am fesurau i ddatrys problemau ehangach.
Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Ymgyrchwyr sydd wedi sicrhau bod grymoedd newydd gan gynghorau i leihau effaith ail dai, ond mae'r broblem tai yn ehangach nag ail dai a thai gwyliau.