Cymunedau Cynaliadwy

“Dydy’r argyfwng tai ddim yn rhyw argyfwng naturiol anochel”: Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AoS yn edrych ymlaen at rali Blaenau Ffestiniog

Mae Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AoS wedi pwysleisio maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wrth edrych ymlaen at rali ‘Deddf Eiddo - Dim Llai’ Cymdeithas yr Iaith ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae ymateb llawn y Gymdeithas i'w weld yma [lawr-lwytho pdf]

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Angen i Julie James AS "wireddu ei rhethreg" trwy gyflwyno Deddf Eiddo

Yn sgil datganiad syfrdanol gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros dai, nad yw marchnad tai y Deyrnas Unedig yn gweithio a bod trin eiddo fel buddsoddiad yn “wallgof”, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw arni i “wireddu ei rhethreg” trwy gyflwyno Deddf Eiddo.

Galw ar Barc Cenedlaethol Eryri i gymryd “cam pwysig” i leddfu’r argyfwng tai

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gymryd camau brys er mwyn mynd i’r afael ag anghyfartaledd y farchnad dai agored yn yr ardal. Bydd cyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Awdurdod yn trafod cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Eryri gyfan ddydd Mercher (6 Mawrth).

Angen gwrando ar ffermwyr ac ystyried y Gymraeg gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn diogelu cymunedau gwledig, yn ôl ymgyrchwyr iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Llywodraeth Cymru i wrando ar a chydweithio gyda ffermwyr ac ystyried y goblygiadau i’r Gymraeg wrth ailedrych ar ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy. 

Gweithdy am y System Cynllunio

21/02/2024 - 19:00

7.00, nos Fercher, 21 Chwefror

Digwyddiad dros Zoom

Dyma gyfle i ddysgu sut mae'r system cynllunio yn gweithio, sut i ddylanwadu ar y Cynllun Datblygu Lleol a chefnogi ymgyrchoedd cymunedau lleol i atal gor-ddatblygu. Does dim angen gwybodaeth am gynllunio i ddod i'r gweithdy.

Cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru am ragor o wybodaeth neu i gofrestru.

Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AoS i ymuno â’r alwad am “Ddeddf Eiddo - Dim Llai” mewn rali ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr

Bydd Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ymysg siaradwyr rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai.

Bydd y rali, sy’n cymryd lle ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, yn pwysleisio’r angen am Ddeddf Eiddo i sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel angen cymunedol, nid asedau masnachol, fel bod pobl yn gallu parhau i fyw a gweithio yn eu cymunedau.

Trefnu Rali Nid yw Cymru ar Werth Blaenau Ffestiniog

12/03/2024 - 19:00

7.00, nos Fawrth, 12 Mawrth
Ystafell Cwmni Bro, Y Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog (5 Stryd Fawr, LL41 3ES)

Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth Blaenau Ffestiniog yn cael ei chynnal ar 4 Mai eleni.

Mae'n flwyddyn bwysig i'n cymunedau Cymraeg felly mae'n addas iawn ein bod ni'n cynnal rali ym Mlaenau Ffestiniog.

Ond mae angen help arnon ni! Mae'r gwaith trefnu wedi cychwyn yn barod, ac yn y cyfarfod hwn byddwn yn trafod sut i hyrwyddo'r rali, a digwyddiadau yn arwain ar y rali.

Hywel Williams AS yn annerch dechrau ‘Taith Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith o Gaernarfon i Gaerdydd

Anerchodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, ddechrau ‘Taith Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith ym Maes Caernarfon heddiw (dydd Gwener, 10 Tachwedd).